Mae Cabinet Cyngor Sir Ceredigion wedi cymeradwyo cynlluniau i ail-strwythuro addysg ôl-16 yn y sir.

Daeth y Cabinet ynghyd yn Aberaeron ddoe i drafod cynlluniau fyddai’n gweld pedair ysgol yng nghanol y sir yn cydweithio er mwyn cydlynu eu cyrsiau lefel A ac AS.

Penderfynodd y Cabinet i gymeradwyo’r cynlluniau er mwyn i’r Adran Addysg gael dechrau ymgynghori ar fodel addysg byddai’n gweld y bedair ysgol yn cydweithio i ddarparu rhai cyrsiau lefel A ac AS, gyda’r disgyblion yn teithio o un campws i’r llall er mwyn dilyn gwahanol bynciau.

Y bedair ysgol dan sylw yw ysgolion uwchradd Tregaron, Aberaeron, Llanbedr Pont Steffan, a Dyffryn Teifi.

Ymgynghoriad

Yn ôl y Cyngor, bwriad yr ymgynghoriad yw i weld a yw’r model yn “ddatrysiad posib i gynaladwyaeth Addysg Ôl-16 yng nghanolbarth Ceredigion.”

Mynnodd y cyngor mai’r rheswm dros gefnogi’r ymgynghoriad yw i “sicrhau effeithlondeb addysg Ôl-16 yng Ngheredigion, ac i gefnogi penderfyniad y cyngor i gynnal addysg 11-18 ym mhob un o’u chwe tref farchnad.”

Yn ôl yr adroddiad, aeth gerbron y Cyngor ddoe, byddai’r model newydd yn golygu bod mwy o bwyslais ar “ansawdd” yr addysg.

Byddai’r newidiadau hefyd yn eu galluogi i “ymestyn y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg sydd ar gael i ddisgyblion… sicrhau cynnydd yn maint grwpiau dysgu blwyddyn 12,” ac yn golygu “lleihau costau.”

Cudd ac ansensitif’

Dywedodd Cyfarwyddwr Addysg Ceredigion, Eifion Evans, wrth Golwg 360 yr wythnos ddiwethaf fod yn rhaid ystyried model newydd ar gyfer addysg ôl-16 yng Ngheredigion gan nad oedd yn gynaliadwy gyda’r costau presennol.

Ond mae’r newidiadau, a’r broses o drafod y newidiadau, wedi cael eu beirniadu’n hallt gan undeb athrawon UCAC, sy’n dweud fod y penderfyniad wedi cael ei wneud mewn ffordd “cudd ac ansensitif.”

Maen nhw hefyd yn poeni am yr effaith ar ddisgyblion, ac yn poeni y gallai athrawon golli eu swyddi yn sgil y newidiadau. Mae’r Cyfarwyddwr Addysg yn mynnu nad oes sail i’r pryderon hyn.