Mae Ysgrifennydd Cyffredinol Eglwys Bresbyteraidd Cymru  wedi dweud ei fod yn cefnogi’r newid arfaethedig i’r ddeddf roi organau yng Nghymru – ond mae ei farn yn mynd yn groes i safbwynt amryw o arweinyddion Cristnogol Cymreig eraill, gan gynnwys Archesgob Cymru, sydd wedi mynegi eu pryder ynglŷn â’r ddeddf arfaethedig.

Mae  Archesgob Cymru, Dr Barry Morgan  wedi rhybuddio y gallai cynlluniau i gyflwyno rhagdybiaeth o ganiatâd ar gyfer rhoi organau beryglu hawliau unigolion.

Ond mae’r Ysgrifennydd Cyffredinol,  y  Parchedig W Bryn Williams, ac Adran Eglwys a Chymdeithas Eglwys Bresbyteraidd Cymru, yn cefnogi egwyddor caniatâd tybiedig, gan ddadlau y byddai deddfwriaeth sy’n cael ei gweinyddu yn gywir yn fuddiol.

Ymgynghoriad

Mae Llywodraeth Cymru yn ystyried cyflwyno deddfwriaeth newydd fyddai’n golygu rhagdybiaeth o ganiatâd wrth roi organau. Mae’n gobeithio y bydd hyn yn cynyddu nifer y rhoddwyr, gan achub mwy o fywydau a rhoi gwell ansawdd bywyd i gleifion.

Mae ymgynghoriad cyhoeddus y Llywodraeth ar y Papur Gwyn, Cynigion ar gyfer Deddfwriaeth ar Roi Organau a Meinweoedd, yn dod i ben heddiw.

‘Rhwymedigaeth foesol’

“Rydym yn teimlo fod arnom rwymedigaeth foesol i ddefnyddio aelodau ein cyrff er lles ein cyd-ddyn,” meddai’r Parchedig Williams.

“Fodd bynnag, byddai’n rhaid sicrhau amddiffyniadau tynn gan fod llawer o’r pryder ynglŷn â’r newidiadau yn ymwneud â manylion y ddeddfwriaeth.  Byddai’n rhaid sicrhau na fydd yn bosibl camweinyddu’r system.  Rydym hefyd yn ceisio sicrwydd y bydd y cynllun yn cael ei gefnogi’n llawn gan ymgyrch gyfathrebu drylwyr.”

Mae Adran Eglwys a Chymdeithas Eglwys Bresbyteraidd Cymru wedi cyflwyno ei barn ar y mesur arfaethedig fel rhan o’r ymgynghoriad.

‘Cefnogi’

“Mae’r corff dynol yn sanctaidd a thra bo gennym fywyd ac anadl, mae arnom gyfrifoldeb i ofalu am a pharchu ein bywydau a rhai pobl eraill hefyd.

“Mae’r ddyletswydd hon yn bodoli waeth beth  fo cyflwr, ansawdd bywyd neu statws y person dan sylw ac mae’r ddyletswydd i ofalu ac amddiffyn yn berthnasol hefyd i sefydliadau cymdeithasol a chymunedol y teulu a’r llywodraeth.

“Gyda’r amddiffyniadau priodol mewn lle, bydd unigolion yng Nghymru yn cael gwybod beth mae’r cynllun yn ei gynnig ac yn cael cyfle i eithrio allan.  Dan yr amgylchiadau rheiny, mae rhesymau da iawn dros gefnogi’r cyfle a gyflwynir yn y cynllun i wella cyfleon bywyd pobl fyddai fel arall yn dioddef neu’n marw’n gynnar,” meddai.

Mae gan Eglwys Bresbyteraidd Cymru tua 28,000 o aelodau mewn 650 o eglwysi, yn ogystal â chysylltiadau ag eglwysi dramor. Ei hamcan yw addoli Duw a lledaenu Efengyl yr Arglwydd Iesu Grist.