Mae nifer y ceisiadau gan ddarpar-fyfyrwyr i brifysgolion Cymru wedi disgyn 9.3% eleni, o’u cymharu â’r llynedd.

Cyhoeddodd y gwasanaeth derbyn ceisiadau, UCAS, heddiw fod nifer y ceisiadau i brifysgolion yng Nghymru i lawr i 60,527 eleni, o’u cymharu â’r un adeg y llynedd.

Mae’r ceisiadau gan ddarpar-fyfyrwyr o Gymru hefyd wedi disgyn 1.9%, ond yn Lloegr gwelwyd y cwymp mwyaf, gyda gostyngiad o 9.9%  yn nifer y ceisiadau gan ddarpar-fyfyrwyr eleni, o’i gymharu â’r llynedd.

Cynnydd

Er hynny mae nifer y ceisiadau i brifysgolion yn yr Alban a Gogledd Iwerddon wedi cynyddu eleni, gyda 0.2% o gynnydd i brifysgolion yr Alban, a 0.1% o gynnydd yng Ngogledd Iwerddon.

Dydi’r newid ddim yn mynd i fod yn syndod i’r rhai sydd wedi bod yn darogan ers tro y gallai’r cynydd mewn ffioedd myfyrwyr – sy’n golygu bod myfyrwyr o Loegr yn gorfod talu hyd at £9,000 y flwyddyn o fis Medi ymlaen yn sgil penderfyniad Llywodraeth San Steffan –  olygu cwymp yn niferoedd y myfyrwyr.

Ond fe fydd y newyddion yn ergyd i Lywodraeth Cymru, sy’n dibynnu ar niferoedd uchel o fyfyrwyr o Loegr i dalu’r £9,000 i brifysgolion Cymru, er mwyn helpu ariannu’r costau is i fyfyrwyr yng Nghymru – sy’n cael ei dalu gan Lywodraeth Cymru.

Beirniadu polisi ffioedd Cymru

Mae Ceidwadwyr Cymru wedi cyfeirio at ffigyrau heddiw fel prawf nad yw polisi ffioedd is Cymru yn gynaladwy.

“Mae’r ffigyrau yma’n taflu cysgod pryderus iawn dros bolisiau’r Llywodraeth, sy’n gwneud dim ond ceisio hawlio’r penawdau,” meddai llefarydd Ceidwadwyr Cymru ar addysg, Angela Burns.

“Dyma gynllun hanner-pan sydd wedi ei seilio’n ansicr ar lif myfyrwyr ar draws Clawdd Offa, ac fe ddylai ffigyrau heddiw sobri’r gweinidog.

“Mae’r gostyngiad sylweddol yn nifer y ceisiadau o Loegr yn codi cwestiynau dros amcangyfrif Llywodraeth Cymru, ac os yw’r arfer yn parhau, bydd y costau’n cynyddu bob blwyddyn,” meddai.

Amddiffyn

Ond cafodd polisi ffioedd Llywodraeth Cymru eu hamddiffyn gan lywydd Undeb Myfyrwyr y DU heddiw.

Yn ôl Liam Burns, mae “ceisiadau gan fyfyrwyr o Gymru a’r Alban wedi cael eu heffeithio’n llawer llai, gan adlewrychu’r ymrwymiad y mae eu Llwyodraethau cenedlaethol wedi eu gwneud i amddiffyn pobol ifanc rhag y cynnydd ym mhris addysg.”