Mae undeb athrawon yr ATL wedi pleidleisio’n unfrydol o blaid derbyn cynnig olaf Llywodraeth San Steffan ynglŷn â phensiynau.

Mae’n dilyn arolwg barn o aelodau’r undeb lle roedd 91.6% wedi pleidleisio o blaid y cynigion.

Dywedodd Llywydd ATL Cymru Dr Alec Clark: “Er bod y cytundeb ymhell o fod yn berffaith, dyma’r canlyniad gorau y gallen ni ddisgwyl ei gael.

“Mae’r ATL wedi brwydro’n galed ac wedi arwain y ffordd wrth sicrhau nifer o gyfaddawdau pwysig gan y Llywodraeth ers eu cynnig gwreiddiol.

Ychwanegodd Dr Philip Dixon, cyfarwyddwr ATL Cymru bod athrawon yn sylweddoli bod y  Llywodraeth yn benderfynol na fyddan nhw’n ildio mwy a dyma’r cytundeb gorau y gallen nhw ei ddisgwyl.

Yr ATL oedd yr undeb cyntaf i gyhoeddi eu bod yn cynnal streic ar y mater.