Un o symptomau llid yr ymennydd
Mae Ymddiriedolaeth Llid yr Ymennydd wedi annog pobol i fod yn wyliadwrus heddiw, ar ôl i fyfyrwraig yng Ngholeg Sir Benfro farw o’r cyflwr ddydd Gwener diwethaf.

Mae’r Ymddiriedolaeth yn annog pobol o bob cwr, ond yn enwedig yn Sir Benfro, i fod yn ymwybodol o unrhyw symtomau o’r cyflwr, gan ei fod yn gallu taro o fewn munudau, a lladd o fewn oriau.

Cafodd holl fyfyrwyr Coleg Sir Benfro, Hwlffordd, lythyr yn eu rhybuddio o’r peryglon ddydd Sadwrn, ar ôl i Hannah Gwilliam farw o lid yr ymennydd yn yr oriau mân fore Gwener.

Mae teulu a ffrindiau’r ferch bellach wedi talu teyrnged iddi, ac fe gafodd baner y Coleg ei dynnu lawr i’r hanner dros y penwythnos.

Teyrnged

“Roedd hi’n ferch glyfar, talentog a phrydferth,” meddai Maggie Haynes, pennaeth Ysgol Tasker Milward, Hwlffordd, lle bu’n ddisgybl nes mynd i’r Coleg addysg bellach y llynedd.

“Roedd hi wastad yn byw bob dydd yn llawn, wastad â gwen ar ei hwyneb a sbarc yn ei llygad.

“Rydyn ni gyd mewn sioc a thristwch o glywed am ei marwolaeth,” meddai Maggie Haynes. “Mae ein meddyliau ni gyda’i theulu a’i ffrindiau ar adeg fel hyn.”

Mae’n debyg bod y ferch wedi marw o fath meningococaidd grŵp B, rhwybryd rhwng nos Iau a bore Gwener.

Symptomau

Mae ei pherthnasau a’i ffrindiau bellach wedi cael gwrthfiotigau rhag ofn eu bod hwythau wedi cael eu heintio.

Mae symptomau llid yr ymennydd yn cynnwys cyfogi, cur pen difrifol, gwres uchel iawn, cric yn y gwâr, sensitifrwydd i olau a phoen yn y cyhyrau a’r cymalau. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn annog unrhyw un sydd â’r symtomau hyn i gysylltu a’u meddyg os ydyn nhw’n pryderu.