Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi anfon llythyr at holl fyfyrwyr Coleg Sir Benfro yn Hwlffordd yn eu rhybuddio i fod yn ofalus ar ôl i gyd-fyfyriwr, sydd heb ei enwi hyd yma, farw o lid yr ymennydd.

Mae 2,000 o fyfyrwyr llawn amser a 6,500 o fyfyrwyr rhan amser yn y coleg.

Mae’n debyg i’r myfyriwr farw o fath meningococaidd grŵp B rhwybryd rhwng nos Iau a bore Gwener.

Mae ei berthnasau a’u ffrindiau bellach wedi cael gwrthfiotigau rhag ofn eu bod hwythau wedi dal yr haint.

Mae’r llythyr i’r myfyrwyr yn pwysleisio nad yw Iechyd Cyhoeddus Cymru yn credu bod yna unrhyw beryg iddyn nhw ddal y llid gan fod y math yma fel arfer yn digwydd ymhlith plant sy’n llai na phum mlwydd oed er bod carfan hefyd yn gallu diodde rhwng 15 a 19 mlwydd oed.

Mae’r llythyr yn rhestru’r symptomau, sy’n cynnwys cyfogi, cur pen difrifol, gwres uchel iawn, cric yn y gwâr, sensitifrwydd i oleuadau a phoen yn y cyhyrau a’r cymalau ac yn annog myfyrwyr i gysylltu a’u meddyg os ydyn nhw’n bryderus am unrhyw symptom.