Annog pobl nad ydyn nhw’n gyfarwydd iawn â Chymru i ddod yma am wyliau yw nod cynllun marchnata newydd gan Lywodraeth y Cynulliad.

Fe fydd buddsoddiad gwerth £10m yn galluogi i Croeso Cymru ddatblygu eu gwaith o farchnata Cymru yn y Deyrnas Unedig a thramor.

Fe fydd y prosiect marchnata’n canolbwyntio ar annog pobl sydd heb ymweld â Chymru am o leiaf dair blynedd, neu sydd heb erioed ymweld i deithio i Gymru.

Parhad yw’r ymgyrch o fenter Cymru: Gwyliau Go Iawn a gafodd ei lansio haf diwethaf.

Mae honno’n sôn am ymwelwyr go iawn er mwyn dangos yr amrywiaeth eang o brofiadau diwylliannol ac egnïol y gall teuluoedd ac ymwelwyr eraill eu mwynhau ledled Cymru.

Bydd y cyllid, sy’n cynnwys £4.4m o Gronfa Datblygu Ranbarthol Ewrop, hefyd yn galluogi Croeso Cymru i ehangu ei hysbysebu ar y teledu, gan sicrhau bod Cymru mor weladwy â phosibl.

Mae ymchwil Croeso Cymru wedi dangos bod mwy o bobl yn cofio gweld hysbyseb deledu am Gymru na hysbysebion am unrhyw gyrchfan arall yn y Deyrnas Unedig.

Mae nifer yr ymwelwyr posibl sy’n ymwybodol o Gymru fel cyrchfan i dwristiaid yn rhyw 15% yn uwch nag yn 2009 ac mae’r sawl sy’n ymwybodol o ymgyrchoedd Croeso Cymru

12% yn uwch

“Mae twristiaeth yn hollbwysig i economi Cymru a bydd y cyllid hwn yn ein galluogi i sicrhau bod Cymru yn parhau’n gyrchfan boblogaidd mewn diwydiant sy’n gynyddol gystadleuol,” meddai’r Gweinidog Treftadaeth, Alun Ffred Jones.

“Bydd gan lawer o bobl ragdybiaethau am yr hyn sydd gan Gymru i’w gynnig fel cyrchfan gwyliau. Rydyn ni nawr yn gobeithio herio’r syniadau hynny i ddenu pobl yn ôl i Gymru neu eu hysbrydoli i ymweld â Chymru am y tro cyntaf.”