Mae tad dyn ifanc fu farw ar ôl bod yn gor-yfed wedi beirniadu parafeddyg oedd wedi darganfod ei fab yn swrth ac wedi ei adael i gysgu yn hytrach na mynd ag o yn syth i’r ysbyty.

Mae tad Daniel Cripps, 22, yn honni y byddai ei fab yn dal yn fyw petai’r parafeddyg wedi mynd ag o i’r ysbyty yn syth.

Mae Michael Cripps, 44, o Gasnewydd eisoes wedi cymryd camau cyfreithiol yn erbyn Gwasanaeth Ambiwlans Cymru.

Heddiw, yn dilyn y cwest i farwolaeth ei fab, fe alwodd ar y parafeddyg i gael ei ailhyfforddi ar unwaith er mwyn sicrhau na fyddai byth yn gwneud yr un camgymeriad eto.

Fe gofnodwyd rheithfarn naratif gan y crwner David Bowen.

Fodca

Clywodd cwest i farwolaeth Daniel Cripps ei fod wedi yfed sawl fodca a nifer o ddiodydd eraill mewn cyfnod byr yn ystod parti pen-blwydd ei ffrind yn 19 oed ym mis Ebrill 2010.

Clywodd y cwest nad oedd Daniel Cripps fel arfer yn yfed cymaint a wnaeth y noson honno.

Roedd  y parti wedi ei gynnal mewn tŷ oedd o fewn pum munud i Ysbyty Brenhinol Gwent yng Nghasnewydd.

Yn fuan, roedd ffrindiau Daniel Cripps wedi sylweddoli ei fod yn wael ac wedi ffonio am ambiwlans.

Parafeddyg

Cafodd y parafeddyg Ian Powell ac un o’i gydweithwyr eu galw i’r parti yn ystod oriau mân Ebrill 25.

Dywedodd Ian Powell ei fod wedi darganfod Daniel Cripps mewn ystafell ymolchi lle roedd wedi bod yn chwydu a’i fod wedi cael ei symud i swyddfa gerllaw. Roedd Ian Powell wedi cymryd ei bwysau gwaed ynghyd â phrofion eraill, ac wedi sicrhau gyda’i ffrindiau nad oedd wedi bod yn cymryd cyffuriau.

Wrth geisio asesu ei lefel ymwybyddiaeth, ar raddfa o 1 i 15, gyda 15 yn cael ei roi i fesur person iach, roedd y parafeddyg wedi cofnodi bod Daniel Cripps yn lefel 8, sef y raddfa ar gyfer rhywun sy’n ddifrifol.

Fe gytunodd Ian Powell bod Daniel Cripps “dan ddylanwad alcohol yn ddifrifol” ond dywedodd bod achosion fel hyn yn gyffredin ar y penwythnosau.

Fe benderfynodd adael Daniel Cripps lle roedd am ei fod mewn lle diogel a gyda ffrindiau oedd yn gofalu amdano, meddai.

Dywedodd wrth ei ffrindiau am eu ffonio eto os oedd yn gwaethygu.

Canllawiau newydd

Dywedodd Danielle Baker, 20, oedd yn dathlu ei phen-blwydd, eu bod nhw wedi ffonio am ambiwlans eto o fewn 20 munud. Dywedodd bod Daniel Cripps yn gorwedd ar y llawr ac roedd ei wefusau wedi troi’n las.

Roedd ffrind arall wedi ceisio rhoi cymorth cyntaf iddo wrth i’r ail ambiwlans gyrraedd ond fe fethodd parafeddygon a dod o hyd i byls.

Wrth grynhoi’r achos dywedodd y crwner bod Daniel Cripps wedi marw o ganlyniad i ddiffyg ocsigen i’w ymennydd am fod cyfog yn rhwystro ei ysgyfaint.

Dywedodd bod canllawiau newydd wedi eu cyflwyno er mwyn sicrhau na fyddai trasiedi fel hyn yn digwydd eto.

Ailhyfforddi

Wrth siarad tu allan i lys y crwner yng Nghasnewydd dywedodd Michael Cripps y dylai ei fab fod wedi cael ei gludo i’r ysbyty ar unwaith.

“Petai wedi cael ei gludo i’r ysbyty yn syth fe fyddai dal yn fyw rŵan,” meddai.

“Mae’r parafeddyg a wnaeth y penderfyniad yma yn dal i weithio. Dydw i ddim yn gwybod sut mae e’n teimlo ond dwi’n meddwl y dylai gael ei ailhyfforddi.”