Mae Awdurdod Addysg Ceredigion yn ystyried cynlluniau a allai orfodi disgyblion  ynghanol y sir i deithio rhwng ysgolion er mwyn dilyn eu cyrsiau Safon Uwch,  gan ddechrau ym mis Medi eleni.

Yn ôl Cyfarwyddwr Addysg y Sir, Eifion Evans, mae’r syniad yn rhan o gynlluniau’r Cyngor i arbed arian o fewn y system addysg ôl-16 ar hyn o bryd, heb orfod torri’n ôl ar y pynciau sy’n cael eu cynnig.

Ond fe fyddai’r newididadau yn golygu bod yn rhaid i ddisgyblion o ysgolion uwchradd Tregaron, Aberaeron, Llanbedr Pont Steffan a Dyffryn Teifi fod yn barod i deithio rhwng y bedair ysgol er mwyn dilyn y cyrsiau.

Mae disgyblion mewn o leia’ un ysgol wedi derbyn llythyr  yn trafod y newidadau hyn – er bod y Cyfarwyddwr Addysg yn dweud nad yw’r Cynllun hyd yn oed wedi cael ei gymeradwyo gan Gabinet y Cyngor eto.

Yn ôl Eifion Evans, mae disgwyl i’r cynllun arbedion gael ei roi gerbron y Cabinet ddydd Mawrth, gan roi cyfle iddyn nhw ei gymeradwyo neu ei wrthod.

Ond dywedodd Eifion Evans wrth Golwg 360 fod yn rhaid dod o hyd i ateb er mwyn “diogelu addysg ôl-16 yng Ngheredigion” sydd, meddai, yn costio llawer iawn yn fwy i’w gynnal gan fod y gyllideb yn cael ei ddyfarnu ar fformiwla cenedlaethol y Cynulliad, yn hytrach na gan yr Awdurdod Addysg Lleol.

“Y broblem yw bod y bedair ysgol yn cynnig rhai cyrsiau, ond bod llai na 10 o ddisgyblion ar draws y bedair ysgol yn eu dewis nhw. Mae’n amhosib i gynnal sefyllfa fel hyn yn ariannol,” meddai.

Er bod plant wedi derbyn llythyron yn dweud y byddai pynciau fel Mathemateg, Ffrangeg ac Addysg Grefyddol yn cael eu dysgu yn Llambed, a Sbaeneg a Chymraeg Ail Iaith yn cael ei ddysgu yn Nhregaron, tra bod Seicoleg yn cael ei ddysgu yn Nyffryn Teifi, a Cherdd a Ffasiwn Dillad yn cael ei ddysgu yn Aberaeron, dywedodd Eifion Evans nad oedd hynny’n derfynol eto.

Dywedodd y byddai lleoliad terfynol ar gyfer bob pwnc yn cael ei benderfynu ar sail ym mha ysgol mae’r nifer mwyaf o ddisgyblion sydd yn dewis astudio’r pwnc.

Dywedodd hefyd y byddai arbenigedd athrawon yn cael ei gymryd i ystyriaeth wrth ddewis pwy fyddai’n dysgu’r pynciau – hyd yn oes os nad ydyn nhw ar safle’r ysgol y mae’r athrawon yn cael eu cyflogi.

“Bydd yr athro neu’r athrawes orau yn teithio i’r lleoliad hynny hefyd,” meddai Eifion Evans.

Mae bob un o’r ysgolion yma dros hanner awr i ffwrdd oddi wrth ei gilydd, tra bod y daith o Landysul i Dregaron yn awr o hyd.

Byddai’n rhaid i ddisgyblion ac athrawon wneud y teithiau yma draw a nôl o’r ysgolion er mwyn dilyn y cyrsiau sy’n cael eu cynnig mewn ysgolion eraill – sy’n ysytriaeth mawr i blant wrth wneud eu penderfyniadau, yn ôl rhai rhieni lleol.

Cost

Ond dywedodd Cyfarwyddwr Addysg Ceredigion, Eifion Evans, mai dyma’r unig ffordd posib o “ddiogelu addysg ôl-16” yn y sir.

“Mae cost rhedeg addysg ôl-16 yn enfawr,” meddai.

“Os fysen ni ddim yn mynd ar ôl y trywydd yma, wel, y’n ni ’di gweld yr hyn sy’n digwydd mewn siroedd eraill,” meddai, gan gyfeirio at y tueddiad i ddarparu addysg ôl-16 mewn colegau addysg bellach erbyn hyn.

“Dwi ddim yn hoff o’r syniad o ganoli addysg ôl-16,” meddai Eifion Evans, “ac fe allai’r model yma ddatrys y broblem ar draws cefn gwlad Cymru.”

Ymgynghori

Mae’r Cyfrawyddwr Addysg yn dweud bod penaethiaid y bedair ysgol, ynghyd â phennaeth Coleg Ceredigion, wedi bod yn rhan o’r ymgynghoriad ar y cynllun newydd. Ond mae’n cyfaddef nad ydyn nhw wedi gofyn barn disgyblion na staff ar y newidiadau hyd yn hyn – ac mae’n debyg bod y newidiadau wedi corddi’r dyfroedd ymhlith athrawon.

“Mae’r cynllun yma’n ifanc iawn yn ei ddatgblygiad ar hyn o bryd,” meddai Eifion Evans, “ond bydd y gwaith i ymgynghori gyda staff a disgyblion yn gorfod digwydd.”