Neuadd y Ddinas, Caerdydd
Mae cynlluniau i ad-drefnu addysg Gymraeg yng Nghaerdydd wedi cael eu croesawu gan fudiad rhieni.

Dywed Rhieni dros Addysg Gymraeg wrth Golwg360 eu bod yn “falch iawn” fod “sefydlogrwydd i sefyllfa addysg Gymraeg yn ardal yr Eglwys Newydd” bellach.

Daw hyn wedi i Lywodraeth y Cynulliad gymeradwyo cynlluniau Cyngor Caerdydd i ad-drefnu ysgolion cynradd Yr Eglwys Newydd.

Ddoe, cyhoeddodd y Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes, Leighton Andrews, ei fod wedi cytuno’n ffurfiol â’r cynnig. Nod y cynllun yw lleihau nifer y llefydd gwag cyfrwng Saesneg yn yr ardal a chwrdd â’r galw cynyddol am addysg cyfrwng Cymraeg

Y cynnig yw cau Ysgol Gynradd Eglwys Wen ac ysgol Gynradd Eglwys Newydd ac agor ysgol cyfrwng Saesneg sy’n derbyn 2.5 dosbarth y flwyddyn gyda meithrinfa yn eu lle, ym mis Medi 2012.

Caiff hyn ei wneud drwy fuddsoddi yn yr adeiladau a rennir ar hyn o bryd rhwng Ysgol Eglwys Wen ac Ysgol Melin Gruffudd.

Bydd Ysgol Melin Gruffudd yn symud i’r adeilad sydd ar hyn o bryd yn gartref i Ysgol Gynradd Eglwys Newydd, gyda buddsoddiad, fel ysgol cyfrwng Cymraeg sy’n derbyn 2 ddosbarth y flwyddyn gyda meithrinfa, o fis Medi 2012.

“Fe fydd y newyddion cadarnhaol yma bod ysgol Gymraeg yn derbyn buddsoddiad gwerth miliynau o ran adnoddau – yn ein gosod gyfochr â’r gorau yng Nghaerdydd,” meddai llefarydd ran Rhieni dros Addysg Gymraeg.