Mae dydd nawddsant cariadon Cymru wedi tynnu dŵr i ddannedd y Trydarfyd heddiw, wrth i lu o gyfarchion ‘Dydd Santes Dwynwen Hapus’ yrru’r neges i restr mwyaf poblogaidd Twitter.

Mae miloedd o drydarwyr Cymraeg a di-Gymraeg wedi bod yn rhannu’r  dymuniad cariadus â’i gilydd heddiw, gan osod dydd cenedlaethol Cariadon Cymru ar restr dyfyniadau mwyaf poblogaidd Twitter ar draws y Deyrnas Unedig.

‘Sioc’

Ond mae’r sylw cenedlaethol i’r digwyddiad wedi dod yn dipyn o sioc i un a fu’n gyfrifol am dorri’r newyddion mawr am Santes Dwynwen i’r genedl yn ôl yn 60au.

“Mae o’n ardderchog,” meddai Jane Edwards, y llenor a ddaeth a stori Santes Dwynwen i fyd y teledu a’r radio yn ôl yn 1963.

Roedd y nofelwraig newydd ennill gyda’i nofel gyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol Llanelli 1963, pan gafodd ei gwahodd i wneud cyfweliad arbennig ar deledu, mewn llecyn o’i dewis – a doedd dim dewis mwy amlwg nag Ynys Llanddwyn, dafliad carreg o’i chartref.

“Fe fum i ar deledu a radio yn sôn am Santes Dwynwen wedyn,” meddai.

“Ond fuo fi mor lwcus o fyw yn y lle iawn. Roedd y stori yno erioed i rywun ei chymryd,” meddai wrth Golwg 360.

Cyn 1963, roedd stori Santes Dwynwen wedi ei gadw, i bob pwrpas, rhwng cloriau llyfrau hanes Cymru, a rhan fwya’ Cymru yn dal heb glywed am santes y cariadon.

‘Stori garu’

Ond dydi hi ddim yn synnu bod y stori am y ferch a dorrodd ei chalon, a throi at Dduw, ar ôl methu â phriodi ei chariad, wedi gafael yn nychymyg pobol.

“Mae’n stori garu, yn d’ydi,” meddai, “ac ma’ hi wedi gafael.

“Mae wedi mynd o nerth i nerth, ac mae o’n ardderchog ein bod ni wedi cael mwy a mwy o bobol i ddathlu’r diwrnod, a dathlu’r hanes yma sydd gynnon ni.

“Mae o’n lawenydd mawr i mi,” meddai’r awdures a gafodd ei geni a’i magu yn Niwbwrch, Ynys Môn.

Erbyn hyn, mae Dydd Santes Dwynwen yn ddathliad cenedlaethol, ac hyd yn oed Prydeinig – os yw Twitter i’w gredu. Ond hud Ynys Llanddwyn, lle sefydlodd Dwynwen ei heglwys, yw gwreiddyn y cyfan o hyd, yn ôl Jane Edwards.

“Mae’r lle’n tawelu popeth, mae’n codi pwysau’r byd i gyd,” meddai, “ma’ ’na rwbeth hudol yno.”