Mae arbenigwyr sy’n edrych ar risg E.coli 0157 yn dweud bod mwy o berygl yng nghefn gwlad ond gallai cymryd camau syml leihau’r risg, gan gynnws gweithredu ar y cyd gyda  awdurdodau perthnasol i ddiogelu plant a grwpiau bregus eraill.

Mae’r tîm o ymchilwyr, sy’n cynnwys gwyddonwyr o Brifysgol Bangor,  yn dweud y “gallai targedu gofalwyr plant ifainc a’r rheiny sy’n gyfrifol am gynnal grwpiau chwarae a gweithgareddau plant ifainc fod yn arbennig o fuddiol.”

Bu academyddion o brifysgolion Bangor, Aberdeen, a Manceinion a’r Ysgol Hylendid a Meddygaeth Drofannol yn Llundain yn ymchwilio i’r modd y mae E.coli yn ymddwyn yn yr amgylchedd gwledig, a sut y gallai ffermwyr, lladd-dai a’r cyhoedd chwarae rhan.

Er i rai o’r achosion amlycaf o E coli O157 ddeillio o fwyd halogedig, ers canol y 90au, mae’r bacteriwm hefyd â chysylltiad agos â ffynonellau amgylcheddol, yn cynnwys tail anifeiliaid fferm a chyflenwadau dŵr preifat.

Mae hyn wedi achosi pryderon cynyddol ynglŷn â’r risg mewn ardaloedd gwledig, yn arbennig i blant ifainc.  Fodd bynnag, mae’r ymchwilwyr wedi canfod mai ychydig o ymwybyddiaeth o E.coli oedd gan ymwelwyr â chefn gwlad.

Gall risgiau penodol fod yn gysylltiedig â rhai pethau, er enghraifft, gwersylla mewn caeau lle bu anifeiliaid yn pori’n ddiweddar.  Gall bacteria E coli aros hefyd ar gamfeydd a physt ffensys, lle gall ymwelwyr osod eu dwylo pan fyddan nhw allan yn cerdded a chael picnic.

Alban

Mae  bacteria yn ymddangos yn fwy cyffredin mewn rhai ardaloedd daearyddol na’i gilydd, efallai oherwydd amrywiaeth yn lefelau’r bacteria y mae anifeiliaid fferm yn eu cario, meddai ymchwilwyr.

Bu’r ymchwilwyr yn cymharu’r Mynydd Bannog (Grampian) â Gogledd Cymru, a chael bod pobl yn ardal astudiaeth yr Alban bedair gwaith yn fwy tebygol o fynd yn sâl.

Roedd yr ymchwil yn dangos bod gweithwyr amaethyddol yn magu rhywfaint o imiwnedd, ond mae plant mewn mwy o berygl oherwydd eu systemau imiwnedd anaeddfed, felly mae’n arbennig o bwysig i bobl ifanc sy’n byw yn y wlad ac i ymwelwyr ifainc, fel ei gilydd, gymryd rhagofalon priodol, meddai’r ymchwil.

‘Golchi dwylo’

Yn ôl Dr Norval Strachan o Brifysgol Aberdeen, wnaeth arwain yr ymchwil: “Mae golchi dwylo’n drylwyr yn ffordd effeithiol i unigolyn leihau ei risg ei hun ar ôl ymweld â chefn gwlad, yn enwedig lle mae anifeiliaid neu eu baw,  a chyn bwyta. Dylai trigolion cefn gwlad ac ymwelwyr bod yn ymwybodol o’r peryglon.”

Dywedodd eu bod yn cynghori ffermwyr i edrych ar “ba le a pha bryd y mae anifeiliaid yn pori os oes risgiau penodol i’r cyhoedd”.

Mae hefyd yn argymell bod awdurdodau lleol a chenedlaethol yn gwneud mwy o waith ar y cyd i godi ymwybyddiaeth.

“Gallai targedu gofalwyr dros blant ifainc a’r rheiny sy’n gyfrifol am gynnal grwpiau chwarae a gweithgareddau plant ifainc fod yn arbennig o fuddiol,” meddai.

Dywedodd Dr Prysor Williams o Brifysgol Bangor fod yr ymateb a gafwyd oddi wrth bobl a gymerodd ran yn y prosiect yn gadarnhaol dros ben: “Buom yn gweithio gyda channoedd o ffermwyr, gweithwyr lladd-dy a’r cyhoedd fel rhan o’r astudiaeth.

“Roedd gan y rhan fwyaf ohonynt ddiddordeb mawr yn y gwaith ac, yn benodol, mewn dysgu sut y gallant leihau’r perygl iddynt eu hunain a’u teuluoedd o’r clefyd hwn, a all fod yn gas iawn.”

Roedd yr ymchwil yn rhan o Raglen Cynghorau Ymchwil y DU ar yr Economi Wledig a Defnydd Tir.