Roedd tua 200 mewn rali yn gwrthwynebu atomfa niwclear Wylfa B ddydd Sadwrn.

Fe drefnwyd y rali gan nifer o fudiadau sy’n gwrthwynebu Wylfa B, gan gynnwys PAWB (Pobl yn erbyn Wylfa B), Cymdeithas yr Iaith Gymraeg a Greenpeace.

Bwriad yr ymgyrchwyr oedd dangos cefnogaeth i Richard Jones a’i deulu o fferm Caerdegog sy’n gwrthsefyll cynlluniau cwmni Horizon i brynu eu tir, a chodi ymwybyddiaeth o beryglon yr orsaf niwclear i’r amgylchedd a’r iaith Gymraeg.

Ymhlith y siaradwyr oedd Menna Machreth, Cymdeithas yr Iaith – oedd wedi trydar y neges ganlynol ar ôl y rali.

‘Awyrgylch drydanol yn Llangefni, 200 o bobl yn cefnogi teulu Caerdegog ac yn dweud ’na’ i Wylfa B. Diolch i bawb a ddaeth! #ymlaen2012

Cymhorthfa Agored

Heddiw, fe fydd Horizon yn cynnal Cymhorthfa Agored yn Neuadd Bentref Cemaes i drafod eu cynlluniau gyda’r cyhoedd.

Bydd cyfle i bobl leol ofyn cwestiynau am gynlluniau’r cwmni ar gyfer gorsaf bŵer niwclear newydd yn Wylfa, meddai’r cwmni.

Fe ddywedodd Horizon y byddai Cymhorthfa Agored yn rhoi cyfle i bobl “gyfarfod â thîm y prosiect a chael rhagor o wybodaeth am y datblygiad newydd arfaethedig”.