Wylfa
Mae llefarydd ar ran cwmni Horizon, sydd am godi ail atomfa ger Wylfa, wedi dweud wrth Golwg360 “nad oes unrhyw sail” i’r sïon am adeiladu ffordd newydd rhwng Y Fali a Thregele.

Ond, fe ddywedodd y llefardd ei fod yn ymddangos y bydd “angen gwellianau i’r A5025 am Gemaes drwy’r Fali.”

Fe wnaeth gadarnhau hefyd fod rhai ffermwyr a thirfeddianwyr lleol wedi derbyn llythyrau yn ymwneud ag arolygon tir.

Eisoes, mae Horizon wedi cyhoeddi y bydd yn cynnal ei Gymhorthfa Agored gyntaf yn 2012 yn Neuadd Bentref Cemaes ddydd Llun nesaf. Bydd cyfle i bobl leol ofyn cwestiynau am gynlluniau’r cwmni ar gyfer gorsaf bŵer niwclear newydd yn Wylfa, meddai’r cwmni.

Fe ddywedodd Horizon y byddai Cymhorthfa Agored mis Ionawr yn rhoi cyfle i bobl “gyfarfod â thîm y prosiect a chael rhagor o wybodaeth am y datblygiad newydd arfaethedig.”

Rali – Gwrthwynebiad i Wylfa B

Bydd ymgyrchwyr lleol yn ymgynnull yn Llangefni ddydd Sadwrn er mwyn dangos cefnogaeth i  deulu o ffermwyr llaeth ar Ynys Môn sydd wedi dweud y bydden nhw’n “gwrthsefyll tactegau bwlio” cwmni Horizon.

Mae Richard a Gwenda Jones a’r teulu sy’n berchen fferm Caerdegog ger Llanfechell wedi gwrthod gwerthu eu tir i Horizon.

Mae’r rali wedi’i drefnu gan nifer o fudiadau sy’n gwrthwynebu Wylfa B, PAWB (Pobl yn erbyn Wylfa B), Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, gyda chefnogaeth Greenpeace.

Bwriad yr ymgyrchwyr yw dangos cefnogaeth i Richard Jones a’i deulu a chodi ymwybyddiaeth o beryglon yr orsaf niwclear i’r amgylchedd a’r iaith Gymraeg. Bydd y rali’n cael ei chynnal am 2:30pm Ddydd Sadwrn ym Maes Parcio Ffordd Glanhwfa, Llangefni.