Helen Mary Jones, Cadeirydd y Pwyllgor
Mae rhai plant yn fodlon mynd heb fwyd yn hytrach na wynebu’r stigma o ddangos eu bod yn cael cinio ysgol am ddim.

Dyna gasgliad Pwyllgor Plant a Phobol Ifanc y Cynulliad mewn ail adroddiad am dlodi plant gan alw ar i Lywodraeth y Cynulliad weithredu i ddileu’r broblem erbyn mis Medi eleni.

Mae angen rhannu’r arferion gorau a gorfodi ysgolion eraill i’w gweithredu, meddai Cadeirydd y Pwyllgor, Helen Mary Jones, AC Llanelli.

Stigma

Mae’r broblem yn codi pan fydd systemau gwahanol ar gyfer plant sy’n cael cinio am ddim – yr ateb, meddai’r pwyllgor, yw systemau sydd yr un peth i bawb.

“Mae plant a phobl ifanc wedi dweud wrthym y byddai’n well ganddynt wneud heb fwyd na wynebu stigma rhoi tocyn lliw am eu pryd am ddim pan oedd eu cyfoedion yn talu ag arian parod,” meddai’r adroddiad sy’n cael ei gyhoeddi heddiw.

Mae prydau ysgol yn esiampl o broblemau tlodi plant ac, yn ôl y Pwyllgor, mae’n rhaid i athrawon gael mwy o hyfforddiant i ddelio gyda’r problemau sy’n codi o hynny, yn arbennig yn y cyfnod allweddol wrth fynd o ysgol gynradd i ysgol uwchradd.

Yn ôl yr adroddiad, mae plant o gefndiroedd tlawd yn rhannu’r un gobeithion â’u cyfoedion pan fyddan nhw rhwng 7 ac 8 oed ond, erbyn cyrraedd 10 ac 11, mae eu disgwyliadau’n llawer is.

Argymhellion eraill

Mae’r adroddiad hefyd yn galw am well monitro ar gynllun Teuluoedd yn Gyntaf y Llywodraeth, am fwy o sylw i’r ffordd y mae awdurdodau lleol yn defnyddio arian y cynllun ac am wneud mwy o ddefnydd o ysgolion bro, sy’n cynnig gwasanaethau i gymunedau cyfan.