Mae parafeddyg oedd wedi slapio claf ar ei hwyneb wedi cael ei wahardd o’i waith am flwyddyn yn dilyn gwrandawiad disgyblu.

Cafwyd Philip Hillier, 53 oed, yn euog o gamymddwyn gan banel y Cyngor Proffesiynau Iechyd (HPC).

Roeddan nhw wedi dyfarnu nad oedd Philip Hillier wedi dangos unrhyw edifeirwch am ei driniaeth tuag at y ddynes yng Nghaerdydd ym mis Mai 2010. Roedd y parafeddyg yn credu bod y ddynes yn ffugio ei hanafiadau.

Clywodd y gwrandawiad fod y weithred wedi peri risg posib i gleifion a’i fod wedi tanseilio enw da Gwasanaeth Ambiwlans Cymru.

Clywodd y panel fod Philip Hillier wedi ei gyhuddo o ymosod ar y ddynes 20 oed ar ôl cael eu galw i ddigwyddiad yng nghanol dinas Caerdydd.

Roedd Hillier wedi darganfod y  ddynes yn anymwybodol yn ôl pob tebyg a gydag anafiadau i’w chefn yn ei chartref, ond roedd yn credu ei bod hi’n ffugio ei hanafiadau.

Clywodd y panel yr honnir iddo gael ei glywed yn gofyn i’r ddynes pam ei bod yn ymddwyn fel “sguthan wirion”. Roedd y ddynes wedi rhegi ato, ac yna honnir ei fod wedi ei slapio ar draws ei hwyneb, gan ei tharo i’r llawr.

Dywedodd Philip Hillier, sydd wedi bod yn barafeddyg ers 20 mlynedd, wrth y gwrandawiad bod y ddynes wedi “rhuthro” tuag ato a’i ddyrnu yn ei lygad.

Ond fe benderfynodd pwyllgor y HPC bod yn well ganddyn nhw dystiolaeth y ddynes a’r parafeddyg arall oedd yno, John Harries, yn hytrach na thystiolaeth Philip Hillier.

Mewn datganiad dywedodd y HPC bod y panel yn teimlo ei bod yn angenrheidiol i wahardd Philip Hillier o’i waith er mwyn diogelu’r cyhoedd.