Elin Jones
Mae Plaid Cymru wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd cyfrifoldeb dros eu bwriad i israddio ysbytai a chanoli gwasanaethau.

Mae Plaid yn honni fod Gweinidog Iechyd Llafur, Lesley Griffiths, yn ceisio osgoi’r cyfrifoldeb am y newidiadau y mae llawer yn poeni allai symud gwasanaethau allweddol ddegau o filltiroedd i fwrdd.

Yn ôl Llefarydd Iechyd Plaid Cymru, Elin Jones, mae angen i Lywodraeth Cymru fod yn onest mai eu penderfyniad gwleidyddol nhw oedd israddio a chanoli gwasanaethau meddygol mewn ysbytai.

“Mae’r Llywodraeth Lafur hon yn awyddus iawn i geisio awgrymu fod Byrddau Iechyd Lleol yn ffurfio eu cynlluniau heb unrhyw gyfraniad gan y Gweinidog,” meddai Elin Jones.

“Y gwir yw bod Byrddau Iechyd Lleol yn ffurfio eu cynlluniau yn unig yn ôl blaenoriaethau gwleidyddol y Gweinidog.”

Fe fu arbedion ariannol yn destun mawr wrth i Lesley Griffiths lansio’i gweledigaeth ar gyfer y gwasanaeth iechyd yn ystod y bum mlynedd nesaf, nôl ym mis Tachwedd.

Dywedodd bryd hynny ei bod hi’n bwysig fod Byrddau Iechyd yn dysgu byw o fewn eu cyfyngderau ariannol.

‘Camarwain’

“Er iddynt gael eu hethol ar addewid i beidio ag israddio ysbytai a chanoli gwasanaethau, mae Llafur yn awr yn cynllunio i wneud yr union beth hwnnw. Allwn ni ddim caniatáu i’r Llywodraeth roi’r bai am hynny ar neb arall.

Mae Elin Jones hefyd wedi beirniadu rhestr o ACau Llafur sydd wedi pleidleisio o blaid y newidiadau i’r gwasanaeth meddygol mewn ysbytai, tra’n siarad yn gyhoeddus yn erbyn y newidiadau.

“Etholwyd ACau Llafur yn dilyn addewid glir gan eu plaid na fuasent yn israddio ysbytai na chanoli gwasanaethau iechyd. Ac eto, mae’r un ACau Llafur yn union wedi pleidleisio yn y Cynulliad Cenedlaethol o blaid israddio a chanoli,” meddai.

“Dylai Llafur roi’r gorau i geisio camarwain pobl a chadw at eu haddewid etholiadol i beidio ag israddio na chanoli ein gwasanaethau iechyd.”