Leanne Wood
Mae’r enw diweddaraf i daflu ei phwysau tu ôl i ymgyrch Leanne Wood i fod yn arweinydd Plaid Cymru wedi dweud fod yr AC o’r Cymoedd yn rhoi cyfle i’r Blaid  gynnig arweiniad mwy clir i bobol ar annibyniaeth.

Mae cyn-brifweithredwr y Blaid, Gwenllian Lansdown Davies, wedi rhoi ei chefnogaeth i ymgyrch Leanne Wood heddiw, gan ddweud fod ei gweledigaeth ar gyfer y dyfodol yn hanfodol er mwyn mynd â Chymru gyfan gyda hi.

“Efallai un o’n gwendidau ni fel plaid dros y cyfnod diwethaf yw’n hanallu ni i gyfathrebu ein gweledigaeth o’r hyn r’yn ni’n ei olygu pan r’yn ni’n son am ‘Gymru annibynnol’,” meddai Gwenllian Lansdown Davies.

Ond mae’n dweud fod Leanne Wood yn “gyfathrebwraig wych,” ac yn rhoi cyfle i Blaid Cymru fod â neges mwy clir ynglŷn â beth yw ystyr ‘annibyniaeth’.

Yn ôl y cyn-Brifweithredwr, mae gan Leanne Wood “weledigaeth am Gymru annibynol, ac mae hi’n fodlon eirioli’r weledigaeth honno.

“Dyw hi ddim yn shei nac yn swil o ran siarad am annibyniaeth,” meddai Gwenllian Lansdown Davies.

“Os ydyn ni am ennill y ddadl, os ydyn ni am gario pobl Cymru, yna mae rhaid i ni fod yn siarad am annibyniaeth ac egluro’r hyn dyn ni’n feddwl pan dyn ni’n dweud hynny,” meddai.

Cyn-Brifweithredwr y Blaid yw’r diweddaraf mewn cyfres o enwau blaenllaw yn y Blaid sydd wedi rhoi eu cefnogaeth i Leanne Wood, wed i’r cyn-AS Adam Price ddatgan ei chefnogaeth iddi’r wythnos diwethaf, ynghyd â Jonathan Edwards AS, a’r Aelodau Cynulliad Bethan Jenkins a Lindsay Whittle.