Richard Wyn Jones
Mae’n rhaid i Gymru gael llais yn y drafodaeth am ddyfodol cyfansoddiadol y Deyrnas Unedig neu fe fydd mewn perygl o gael ei gadael ar y cyrion, yn ôl tri sefydliad sydd wedi dod at ei gilydd i ffurfio fforwm newydd.

Fe fydd Canolfan Llywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd, y Sefydliad Materion Cymreig a Cymru Yfory yn dod at ei gilydd ar gyfer prosiect tair blynedd lle bydd y fforwm newydd yn rhoi llais i arbenigwyr cyfansoddiadol a gwleidyddion ar hyd a lled gwledydd Prydain.

Yn ôl yr Athro Richard Wyn Jones, Cyfarwyddwr Canolfan Llywodraethiant Cymru, bwriad y prosiect yw chwalu’r rhwystrau daearyddol, gwleidyddol a chyfryngol sydd wedi ennyn gwahanol ddadleuon yn rhannau o’r DU.

“Mae’n rhaid i ni ddod â’r gwahanol drafodaethau yma at ei gilydd a cheisio sicrhau bod y rhai sy’n rhan o’r trafodaethau yma yn fwy ymwybodol o’r effaith mae’r newidiadau mewn un gwlad yn ei gael ar y gweddill.

“Mae’n syndod, er enghraifft, bod Lloegr i raddau helaeth, wedi chwarae cyn lleied o ran yn y drafodaeth am ddatganoli hyd yn hyn,” meddai.

Dywedodd Caroline Oag, cadeirydd Cymry Yfory: “Mae’r refferendwm a’r ansicrwydd ynglŷn â dyfodol yr Alban o fewn y DU, yn rhoi’r berthynas rhwng gwledydd Prydain ar yr agenda ryngwladol mewn ffordd hollol newydd.

“Mae’n rhaid i Gymru sicrhau bod ei llais yn cael ei chlywed ac mae’n rhaid i ni ennyn diddordeb y cyhoedd yn y drafodaeth.”

Ac yn ôl Geraint Talfan Davies, cadeirydd y Sefydliad Materion Cymreig, fe all Cymru wneud “cyfraniad unigryw” yn y drafodaeth.

Mae Sefydliad Joseph Rowntree wedi rhoi £50,000 tuag at y prosiect.