Elin Jones
Mae Plaid Cymru wedi cyhuddo Llafur o “gamarwain” pobol dros israddio ysbytai.

Mae llefarydd iechyd Plaid Cymru, ac ymgeisydd arweinyddiaeth y blaid, Elin Jones, wedi tynnu sylw at bump Aelod Cynulliad Llafur sydd wedi siarad yn gyhoeddus yn erbyn israddio gwasanaethau iechyd – ond eto wedi pleidleisio o blaid canoli’r gwasanaethau.

Ond mae Llafur wedi taro’n ôl heddiw, gan gyhuddo Plaid o ddefnyddio triciau “twyllodrus a brwnt” i geisio tanseilio’u gwrthwynebwyr.

Yn ôl Elin Jones, sy’n un o’r pedwar sy’n ceisio am arweinyddiaeth Plaid Cymru, mae rhai ACau Llafur yn awyddus i “roi’r argraff” eu bod nhw yn erbyn israddio gwasanaethau’r ysbytai, gan siarad am y mater gyda’r wasg leol.

Wrth enwi, a cheisio cywilyddio rhai o ACau Llafur, mae Elin Jones wedi tynnu sylw at Keith Davies, AC Llanelli, Ann Jones, AC Sir Ddinbych, Lynne Neagle, AC Torfaen, yn ogystal ag ACau Canolbarth a Gorllewin Cymru, Joyce Watson a Rebecca Evans am fod yn rhagrithiol am y cynllun.

“Pan fydd hi’n dod i bleidlais yn y Senedd, fe wnaethon nhw bleidleisio o blaid israddio a chanoli,” meddai.

“Bydd Plaid Cymru yn dal i weithio tuag at ddatgelu cynlluniau sinigaidd a rhagrithiol Llafur i gamarwain pobol Cymru.”

Ond dywedodd llefarydd ar ran Llafur heddiw mai dyma’r “union fath o wleidyddiaeth brwnt a thwyllodrus gan Blaid Cymru a welodd y blaid yn cael ei gwrthod yn llwyr gan y cyhoedd yn etholiadau’r Cynulliad.

“Mae’r drafodaeth ar hyn o bryd yn cael ei gynnal cyn yr ymgynghoriad, ac mae aelodau cymunedau ar draws Cymru yn cael eu gwahodd i helpu datblygu cynigion ymgynghoriad.

“Byddai’n esgeulus iawn o Aelodau Cynulliad os na fydden nhw’n cyfrannu at y broses hon, gan gynrychioli barn eu cymunedau.

“Mae Plaid Cymru wedi cyhoeddi adolygiad o’u methiant yn etholiadau mis Mai.

“Un o’r rhesymau mwyaf amlwg am hynny yw eu tacteg o gyhoeddi datganiadau sy’n fwriadol gamarweiniol a cheisio tanseilio eu gwrthwynebwyr gwleidyddol yn hytrach na cheisio gweithio gyda chymunedau i wella bywydau’r bobol sy’n byw yno.”