Ieuan Wyn Jones
Mae’n rhaid i Blaid Cymru drawsnewid ei threfn a’i dulliau ymgyrchu yn ôl adroddiad ar fethiant y blaid yn etholiadau diwetha’r Cynulliad.

Mae’n awgrymu bod angen gwella’r arweinyddiaeth a’i gwneud yn fwy atebol i’r aelodau.

Ac mae’n dweud bod rhaid iddi fod yn gliriach o ran ei hamcanion – gan gynnwys annibyniaeth neu beidio.

Mae’r argymhellion yn cynnwys cael yr offer ymgyrchu diweddara’ a chreu plaid sy’n ymgyrchu trwy’r amser, meddai’r adroddiad sydd wedi ei lunio gan banel o chwech.

Rhan o wneud hynny fydd sefydlu canolfan i feithrin arweinwyr a threfnwyr ac i ddatblygu’r hyn sy’n cael ei alw’n “hyrwyddwyr cymunedol”.

Y cefndir

Cafodd yr adroddiad ei gyhoeddi mewn cynhadledd i’r wasg y prynhawn yma ar ôl misoedd o gymryd tystiolaeth gan aelodau’r Blaid.

Roedd yr ymchwiliad wedi ei alw gan yr arweinydd, Ieuan Wyn Jones, ar ôl i’r Blaid golli seddi yn y Cynulliad – er gwaetha’ bod yn rhan o’r Llywodraeth.

Mae’r adroddiad hefyd yn awgrymu bod diffygion wedi bod o ran llunio polisi ac mae’n argymell defnyddio rhagor o arbenigwyr allanol.

Sylwadau Eurfyl ap Gwilym

“Ein gobaith yw y bydd yr adroddiad hwn yn gweithredu fel catalydd ar gyfer trafodaeth lawn o fewn Plaid Cymru ac y bydd ein hargymhellion yn sail i gynllun gweithredu a fydd yn arwain at lwyddiant pellach i Blaid Cymru a’r genedl Gymreig,” meddai cadeirydd y panel, Eurfyl ap Gwilym.

“Os byddwn yn achub ar y cyfleodd o’n blaen rydym yn hyderus bod y gorau eto i ddod.”