Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi cyhoeddi heddiw y bydd 33 o swyddi newydd yn cael eu cyllido o dan Gynllun Staffio Academaidd y Coleg ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf.

Bydd y swyddi darlithio wedi’u lleoli mewn sefydliadau addysg uwch ar draws Cymru a hynny mewn ystod eang o ddisgyblaethau academaidd ar draws y gwyddorau, dyniaethau a’r celfyddydau.

Daw’r newyddion  yn dilyn dyfarnu 26 swydd o dan y cynllun ar gyfer y flwyddyn academaidd bresennol yn gynharach eleni.

O ganlyniad fe all y cynllun arwain at greu dros 100 o swyddi academaidd cyfrwng Gymraeg erbyn 2015-16, gan ddatblygu darlithwyr o’r radd flaenaf sy’n adnabyddus am flaengarwch ym maes addysgu ac ymchwil ar draws Cymru.

‘Croesawu’

Dywedodd yr Athro R Merfyn Jones, Cadeirydd Bwrdd Academaidd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol:“Mae’r newyddion hwn i’w groesawu’n fawr ac yn barhad o gychwyn llwyddiannus y Cynllun Staffio Academaidd eleni.  Mae’r ymateb i’r Cynllun Staffio yn ei ail flwyddyn fel hyn wedi bod yn arbennig ac yr ydym yn hyderus iawn y byddwn yn gallu adeiladu ar lwyddiant cychwynnol y cynllun.

Dywedodd Dr Sophie Smith, darlithydd Ffrangeg ym Mhrifysgol Abertawe sy’n cael ei chyflogi trwy gyllid Cynllun Staffio Academaidd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol: “Mae’r dyfodol yn edrych yn gyffrous iawn.  Mae llawer o bobl wedi gwneud gwaith gwych yn y maes cyfrwng Cymraeg yn y gorffennol ac yn awr yr ydym yn cael y cyfle i adeiladu ar y seiliau cadarn hynny.

“Ym mlwyddyn gyntaf y Cynllun Staffio fel hyn yr ydym mewn sefyllfa freintiedig iawn i gael bod yn rhan o’r datblygiadau cyffrous a newydd hyn ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr at y penodiadau newydd y flwyddyn nesaf er mwyn datblygu’r cyfleoedd cydweithio ymhellach.”