Mae’r Gweinidog Llywodraeth Leol wedi cadarnhau heddiw y bydd etholiadau Cyngor Môn yn cael eu gohirio tan fis Mai 2013.

Mewn datganiad y prynhawn ’ma, dywedodd Carl Sargeant ei fod wedi penderfynu gohirio’r etholiadau ar sail yr argymhellion bod angen diwygio wardiau a nifer cynghorwyr Môn.

Daw’r cyhoeddiad â dau fis o ddyfalu i ben, wedi i’r gweinidog ddweud ei fod yn “ystyried” gohirio’r etholiadau yn ôl ym mis Tachwedd y llynedd.

Dywedodd ei fod wedi gwneud y penderfyniad heddiw ar sail “adroddiad yr Ymchwilydd Annibynnol i Gymru” oedd yn argymell “rhaglen o adfer democrataidd yn y Cyngor… ac y dylai unrhyw newid gael ei gyflwyno cyn yr etholiadau llywodraeth leol nesaf.”

Wrth wneud y cyhoeddiad heddiw, dywedodd Carl Sargeant ei fod wedi “ymgynghori â llywodraeth leol, pleidiau gwleidyddol a phobol eraill â diddordeb yn y cynigion.”

Ond mae’r mater wedi bod yn destun ffraeo rhwng y pleidiau yn Ynys Môn, gyda’r Cynghorwyr yn unfrydol yn erbyn newid dyddiad yr etholiadau.

Mae’r sefyllfa eisoes wedi creu tenswin rhwng arweinydd grŵp Plaid Cymru ar y Cyngor, Bob Parry, ac arweinydd Plaid Cymru, Ieuan Wyn Jones, a gyhoeddodd yr wythnos diwethaf ei fod yn cefnogi’r newid.

Mae’r rhwyg hefyd yn amlwg rhwng barn cyhnghorwyr Plaid Lafur Ynys Môn, a bleidleisiodd yn erbyn y newid, â phenderfyniad y blaid yn ganolog.

Mae’r datganiad gan y gweinidog hefyd wedi cael ei feirniadu gan y Ceidwadwyr heddiw.

“Mae’n siomedig fod y Gweinidog Llafur Cymru, gyda help Plaid Cymru, wedi penderfynu anwybyddu’r broses ddemocrataidd ac atal pobol Ynys Môn rhag cael rhoi eu barn ar y modd y mae eu gwasanaethau yn cael eu cyflwyno,” meddai llefarydd Llywodraeth Leol y Ceidwadwyr, Janet Finch-Saunders.

“Mae’n bryd i bobol Ynys Môn dynnu llinell dan y cyfnod ansefydlog diweddar yn y Cyngor, ac ail-afael mewn democratiaeth leol trwy gynnal etholiadau newydd.”

Bydd y Comisiwn Ffiniau nawr yn bwrw ymlaen â’u hadolygiad o’r trefniant etholaethol yn Ynys Môn, cyn cyflwyno cynigion ar gyfer unrhyw newid yng nghyfanswm y cynghorwyr, a’r nifer ym mhob ward, ynghyd ag union ffiniau’r wardiau newydd.

Dywedodd Carl Sargeant y byddai’r newid hefyd yn rhoi “sefydlogrwydd tra bod y Cyngor yn parhau i ddatrys eu problemau ehangach.”

Dywedodd hefyd y byddai’r Comisiynwyr a benodwyd i redeg y cyngor fis Mawrth y llynedd yn parhau yn eu lle nes ei fod yn “fodlon fod y Cyngor yn gallu gofalu am eu materion eu hunain mewn ffordd cynaliadwy.”