Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi heddiw eu bod yn ystyried gohirio etholiadau’r Cyngor 2016 am flwyddyn er mwyn osgoi cyd-daro ag etholiadau’r Cynulliad.

Mae’r Llywodraeth wedi lansio ymgynghoriad heddiw yn gofyn i bobol am eu barn ynglŷn â symud dyddiad yr etholiad llywodraeth leol yng Nghymru i fis Mai 2017, er mwyn osgoi cynnal y ddau etholiad yr un flwyddyn.

Mewn llythyr agored gan y Gweinidog Llywodraeth Leol, dywedodd Carl Sargeant ei fod yn ysytried “gohirio’r etholiadau i gynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol am flwyddyn, sef eu symud o fis Mai 2016 i fis Mai 2017, gan fynd yn ôl at y cylch pedair blynedd arferol wedi hynny.”

Mae’n ymddangos mai holl reswm y newid yw’r ffaith fod yr etholiad seneddol nesaf i gael ei gynnal ym mis Mai 2015 – sydd yn cyd-daro â dyddiad gwreiddiol etholiadau’r Cynulliad yn 2015.

Mae’r Llywodraeth eisoes wedi gohirio etholiadau’r Cynulliad am flwyddyn, nes mis Mai 2016. Cafodd y penderfyniad hwnnw ei wneud ar ôl i Aelodau Cynulliad bleidleisio ar y mater yn ôl ym mis Mawrth 2011.

Ond mae’r Llywodraeth nawr yn ystyried bwrw etholiadau’r Cyngor ymlaen, er mwyn osgoi’r cyd-daro newydd gydag etholiadau’r Cynulliad.

Mae deddfau Cymru a Lloegr yn caniatau i ddyddiadau’r etholiadau gael eu gwthio mlaen am flwyddyn, er ei fod yn golygu y bydd Llywodraeth  presennol yn rheoli am bum mlynedd, yn hytrach na’r bedair arferol.

Wrth agor yr ymgynghoriad heddiw, dywedodd Carl Sargeant  ei fod yn “gwahodd eich sylwadau am y cynnig i newid y dyddiad etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru o fis Mai 2016 i fis Mai 2017.”

Bydd y cyfnod ymgynghorol yn para nes 12 Mawrth eleni, pan fydd yn rhaid i bawb sydd eisiau gwneud sylw fod wedi ei gyflwyno.