Efallai y bydd Gwyl Jazz Aberhonddu yn cael ei chynnal eleni, meddai Cyfeillion yr Ŵyl mewn cylchlythr.

Mae Cyfeillion Gŵyl Jazz Aberhonddu “mewn cysylltiad cyson” â Chyngor Sir Powys a Chyngor Celfyddydau Cymru ar ôl i drefnwyr Gŵyl y Gelli dynnu nôl ’chydig o fisoedd yn ôl.

Er bod “gobaith” o gynnal yr wyl eleni, does dim sicrwydd o hynny, meddai’r Cyfeillion mewn datganiad ond “yn sicr” bydd yn cael ei chynnal yn 2013.

“Mae’r grŵp yn teimlo’n gadarnhaol iawn sy’n rhoi sail gref i ni fod yn optimistig,” meddai’r Cyfeillion  sy’n dweud bod “nifer o hyrwyddwyr” wedi dangos diddordeb yn yr Ŵyl.

‘Siomedig’

“Ro’n i’n siomedig pan glywais i am Ŵyl y Gelli yn tynnu nôl,” meddai Rob Froud, un o gyfeillion yr Ŵyl wrth Golwg360.

“Er nad oedd yr Ŵyl yn berffaith yn y flwyddyn gyntaf, roedd pethau’n edrych llawer gwell y llynedd,” meddai,  cyn dweud bod rheolaeth Gŵyl y Gelli o’r ŵyl wedi bod yn “broffesiynol.”

“Dw i’n dychmygu bod y rhan fwyaf o bobl yn siomedig iawn – yn arbennig os oedden nhw’n meddwl fel yr oeddwn i – fod yr ŵyl yn mynd o nerth i nerth.”

Dywedodd ei fod yn gobeithio y bydd gŵyl yn 2013. “Does dim i’w gymharu â Gwyl Jazz Aberhonddu,” meddai gan gyfeirio at “gymeriad ac arlwy” yr Ŵyl.