Wylfa
Bydd  Horizon yn cynnal ei Gymhorthfa Agored gyntaf yn 2012 yn Neuadd Bentref Cemaes wythnos i heddiw, cafodd ei gyhoeddi heddiw.

Bydd cyfle i bobl leol ofyn cwestiynau am gynlluniau’r cwmni ar gyfer gorsaf bŵer niwclear newydd yn Wylfa, meddai’r cwmni.

Fe ddywedodd Horizon y byddai Cymhorthfa Agored mis Ionawr yn rhoi cyfle i bobl “gyfarfod â thîm y prosiect a chael rhagor o wybodaeth am y datblygiad newydd arfaethedig.”

“Roedd ein Cymorthfeydd Agored yn hynod o boblogaidd yn 2011, ac rydym yn edrych ymlaen at gymhorthfa gyntaf 2012,” meddai  Alan Smith, Pennaeth Datblygu Safleoedd Horizon.

Bydd y gymhorthfa yn digwydd rhwng 1pm a 7pm ar 23 Ionawr yn Neuadd Bentref Cemaes.

Rali – Gwrthwynebiad i Wylfa B

Mae teulu o ffermwyr llaeth ar Ynys Môn wedi dweud y bydden nhw’n  “gwrthsefyll tactegau bwlio” cwmni Horizon sydd am godi ail atomfa ger Wylfa. Mae Richard a Gwenda Jones a’r teulu sy’n berchen fferm Caerdegog ger Llanfechell wedi  gwrthod gwerthu eu tir i Horizon.

Bydd ymgyrchwyr lleol yn ymgynnull yn Llangefni ddydd Sadwrn nesaf er mwyn dangos cefnogaeth i’r teulu.

Mae’r rali wedi’i drefnu gan nifer o fudiadau sy’n gwrthwynebu Wylfa B, PAWB (Pobl yn erbyn Wylfa B), Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, gyda chefnogaeth Greenpeace.

Bwriad yr ymgyrchwyr yw dangos cefnogaeth i Richard Jones a’i deulu a chodi ymwybyddiaeth o beryglon yr orsaf niwclear i’r amgylchedd a’r iaith Gymraeg. Bydd y rali’n cael ei chynnal am 2:30pm Ddydd Sadwrn ym Maes Parcio Ffordd Glanhwfa, Llangefni.