Elin Jones
Mae Aelod Cynulliad Ceredigion wedi cael ei henwebu’n swyddogol i sefyll am arweinyddiaeth Plaid Cymru.

Fe gytunodd Pwyllgor Etholaeth Plaid Cymru yng Ngheredigion yn unfrydol o blaid enwebu Elin Jones AC ar gyfer arweinyddiaeth Plaid Cymru nos Iau diwethaf.

Yn ôl Cadeirydd Pwyllgor Etholaeth Plaid Cymru yng Ngheredigion, Arthur Dafis, mae’r Pwyllgor yn “ymwybodol iawn o waith caled Elin dros bobol Ceredigion, ac yn credu y byddai’n arweinydd effeithiol iawn ar gyfer Plaid Cymru ar hyd a lled y wlad.

“Mae wedi amlinellu gweledigaeth gyffrous ar gyfer y Blaid a Chymru,” meddai, “ac rydym yn dymuno pob llwyddiant iddi dros yr wythnosau nesaf yn ystod yr ornest i ddewis yr arweinydd newydd”.

Mae’r cyfnod enwebu wedi cychwyn yn ffurfiol ers 3 Ionawr, ac fe fydd yn parhau’n agored nes 26 Ionawr 2012.

Mae enw Aelod Cynulliad Dwyfor Meirionydd, Dafydd Elis Thomas, eisoes wedi cael ei roi yn y pair, ynghyd ag enw Aelod Cynlluniad Rhanbarth Canol De Cymru, Leanne Wood, ac mae disgwyl i Simon Thomas, Aelod Cynulliad Canolbarth a Gorllewin Cymru, ymuno â’r enwebiadau cyn diwedd y mis.