Ysbyty Brenhinol Caerdydd
Mae ysbyty mewn adeilad hanesyddol yng Nghaerdydd i gael ei hailwampio mewn cynllun gwerth £15.8 miliwn.

Fe fydd Ysbyty Brenhinol Caerdydd yn ehangu ei gwasanaethau iechyd cymunedol  gan  gynnwys dwy feddygfa, fferyllfa, yn ogystal ag adrannau cleifion allanol a iechyd rhyw.

Cafodd y cynlluniau eu cyflwyno fis Mehefin y llynedd a heddiw fe gawson nhw eu cymeradwyo gan Lywodraeth Cymru.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Lesley Griffiths y byddai’r cynllun yn dod â bywyd newydd i’r ysbyty Fictorianaidd ac yn ei gwneud yn rhan hanfodol o wasanaeth iechyd yr ardal, gan roi mynediad i bobl leol at wasanaethau o dan un to.

Mae David Francis, cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro wedi croesawu’r cyhoeddiad gan ddweud ei fod yn gam pwysig ymlaen.

Cafodd Ysbyty Brenhinol Caerdydd ei adeiladu yn 1884 ac mae bellach yn adeilad rhestredig Gradd II.

Ar ddiwedd yr 20fed Ganrif roedd dyfodol yr ysbyty yn y fantol pan gaeodd fel ysbyty cyffredinol rhanbarthol gyda’r uned argyfwng yn symud i Ysbyty Athrofaol Caerdydd.Ond fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru yn 2009 y byddai’r ysbyty yn cael ei ddefnyddio ar gyfer gwasanaethau iechyd cymunedol.