Mae Cyngor Sir Ynys Môn wedi cadarnhau fod ymchwiliad i brifathrawes ysgol ym Menllech yn dal i fynd yn ei flaen, yn groes i adroddiadau mewn papur lleol.

Fe gafodd Ann Hughes, prifathrawes Ysgol  Goronwy Owen ym Menllech, ei hatal o’i gwaith y llynedd wrth i ymchwiliadau barhau.

Mae’r heddlu, yr Awdurdod Addysg Leol a gwasanaethau cymdeithasol Cyngor Môn yn ymchwilio ar ôl i rieni ac athrawon gwyno am y brifathrawes, sydd yno ers bron i ugain mlynedd. Ym mis Awst 2010, rhoddwyd cwyn gerbron Llywodraethwyr yr ysgol gan bump o’r chwe athro yn yr ysgol.

Derbyniodd y Llywodraethwyr eu cwynion a pharatoi Cynllun Gweithredu i ddelio â’r materion a godwyd. Ond â hwythau yn anfodlon â’r Cynllun Gweithredu, roedd y pump wedi cyflwyno pleidlais o ddiffyg hyder yn y brifathrawes nôl ym Mai 2011, cyn gadael eu gwaith yn sâl am bedwar mis, gan ddweud eu bod yn gweithio mewn awyrgylch o ofn.

Yn y cyfamser, mae penaethiaid dros dro wedi bod yn rheoli’r ysgol.

Heddiw, dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Ynys Môn wrth Golwg360: “Dymuna’r awdurdod bwysleisio fod yr ymchwiliad yn parhau.  Er bod cyfnod y penaethiaid dros dro yn dod i ben ddiwedd y mis, mae llywodraethwyr yr ysgol a’r awdurdod yn gweithio gyda’i gilydd er mwyn sicrhau bod trefniadau rheolaeth cadarn mewn lle o Chwefror 1 ymlaen, wrth i’r ymchwiliad barhau.”

Mae’r Cynghorydd Ieuan Williams wedi anfon llythyr at rieni’r ysgol gan Gadeirydd y Llywodraethwyr yn egluro’r sefyllfa.

Pwt o’r llythyr…

“Mae’n debyg fod nifer ohonoch chi wedi darllen yr hyn a ymddangosodd yn y “Holyhead & Anglesey Mail” heddiw (11:1:12).

“Mae’r Awdurdod, fel y Corff Llywodraethu, yn siomedig iawn ynglŷn â’r ffaith eich bod chi fel rhieni, a’r cyhoedd yn gyffredinol, yn cael eich camarwain ynglŷn â’r gwir sefyllfa a’r gwir ffeithiau.  Er bod llefarydd ar ran y Cyngor Sir eisoes wedi cadarnhau fod “yr ymchwiliad yn parhau ac mae gwaharddiad (y pennaeth) yn parhau mewn grym” hoffwn fanteisio ar y cylfe hwn i gadarnhau’n swyddogol ddau beth:

1.       Nid yw’r ymchwiliad annibynnol wedi dod i ben, ac ni chafwyd cadarnhad terfynol ynglŷn â dyddiad cwblhau’r ymchwiliad.

2.       Gan fod Mr Gareth Hughes a Mr Peter Thomas yn awyddus i’w cyfnod fel penaethiaid dros-dro ddod i ben ar 31:1:12, a chan nad yw’r ymchwiliad wedi dod i ben, mae’r Corff Llywodraethu’n gweithio’n agos a’r Gwasanaeth Addysg i sicrhau y bydd trefniadau rheolaethol cadarn yn eu lle, o 1 Chwefror 2012 ymlaen.”