Mae bachgen yn ei arddegau yn parhau mewn cyflwr difrifol ar ôl damwain car yn Neganwy dros y penwythnos.

Mae’r bachgen lleol yn cael ei drin am anafiadau difrifol “sy’n peryglu ei fywyd,” yn ôl Heddlu’r Gogledd.

Cafodd y bachgen ei anafu yn dilyn gwrthdrawiad rhwng car Rover MGZ a Mitsubishi Shogun yn oriau mân fore dydd Sadwrn.

Roedd y Mitsubishi  Shogun yn llonydd pan pan gafodd ei daro gan y cerbyd arall ar Vardre Avenue am 12.27am.

Cafodd y bachgen ei gludo i Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan ond cafodd ei drosglwyddo i Ysbyty Alder Hay, Lerpwl, yn ddiweddarach.

Cafodd dau o’r teithwyr eraill yn y Rover MGZ driniaeth am fân anafiadau wedi’r digwyddiad.

Mae’r heddlu bellach wedi arestio dau berson ifanc lleol yn ymwneud â’r digwyddiad. Mae’r ddau wedi cael eu rhyddhau ar fechniaeth yr heddlu am y tro, tra bod yr ymchwiliad yn parhau.

Mae’r heddlu yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad i ffonio Sarjant Ifan Jones yn Heddlu’r Gogledd ar 101.