Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones
Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, wedi rhybuddio llywodraeth Prydain i beidio ag ymyrryd yn ormodol yng ngwleidyddiaeth Cymru a’r Alban.

Roedd yn ymateb i’r dadleuon rhwng llywodraethau Prydain a’r Alban ynghylch y trefniadau ar gyfer cynnal refferendwm ar annibyniaeth i’r Alban.

“Efallai mai gan lywodraeth Prydain y mae’r grym cyfreithiol i gynnal refferendwm, ond gan bobl yr Alban mae’r grym gwleidyddol i benderfynu ar eu dyfodol, a llywodraeth yr Alban ddylai osod y cwestiwn iddyn nhw,” meddai Carwyn Jones ar y rhaglen Sunday Politcs heddiw.

“Mae’n rhaid i David Cameron sicrhau nad yw llywodaeth Prydain yn cael ei gweld fel petai hi’n ceisio ymyrryd.”

Dywedodd hefyd fod angen i Ysgrifennydd Cymru, Cheryl Gillan, barchu hawliau llywodraeth ddatganoledig Cymru yn yr un modd.

Roedd Cheryl Gillan wedi ei gyhuddo o ddilyn agenda annibyniaeth i Gymru ar ôl iddo feirniadu llywodraeth David Cameron.

“All datganoli ddim gweithio os yw unrhyw wahaniaeth barn yn cael ei weld fel bygythiad,” meddai Carwyn Jones.

“Mae gan i’r mandad o fod wedi cael fy ethol gan bobl Cymru – dyw hyn ddim yn wir am Cheryl Gillan.”

‘Cydbwysedd’

Dywedodd Carwyn Jones ei fod yn gobeithio y bydd yr Alban yn pleidleisio o blaid aros yn rhan o’r Deyrnas Unedig:

“Mae angen y pedair gwlad er mwyn cynnal cydbwysedd o fewn Prydain,” meddai, wrth gydnabod y byddai pleidlais o blaid annibyniaeth i’r Alban yn golygu angen am newidiadau sylfaenol yn y berthynas rhwng Cymru a Lloegr a Gogledd Iwerddon.

“Mae’n amlwg na allai pethau barhau fel cynt, oherwydd fe fyddai angen sicrhau llais digon cryf i Gymru, ac un posibilrwydd fyddai Ail Dy a fyddai’n sicrhau cynrychiolaeth fwy cytbwys.”

Ar yr un pryd, nid yw’n credu y byddai annibyniaeth i’r Alban yn arwain at alwadau tebyg yng Nghymru.

“Petai un rhan o Brydain yn penderfynu gadael, nid yw’n anochel y byddai rhannau eraill yn awyddus i wneud yr un peth,” meddai.

“Lle mae Cymru yn y cwestiwn, dyw annibyniaeth ddim o fudd ariannol inni, gan ein bod ni’n elwa o’r trefniant presennol o arian yn cael ei ddosbarthu rhwng gwahanol rannau o fewn Prydain.”