Trenau Arriva Cymru
Mae streic gan yrwyr trenau ar ddiwrnod gêm Cymru a Lloegr yng Nghaerdydd wedi ei ganslo, cyhoeddwyd heddiw.

Roedd gyrwyr Trenau Arriva Cymru oedd yn aelodau undeb RMT wedi dweud y bydden nhw’n mynd ar streic ddydd Gwener ar ôl dadl dros amodau gwaith.

Roedd y streic yn bygwth aflonyddu ar filoedd o gefnogwyr rygbi oedd am fynd i’r gêm yn Stadiwm y Mileniwm.

Dywedodd yr undeb eu bod nhw wedi penderfynu canslo’r streic ar ôl cyngor cyfreithiol ynglŷn â “natur gyfnewidiol cyfreithiau sy’n targedu undebau llafur”.

Dywedodd yr undeb fod y penderfyniad hefyd wedi ei effeithio gan gamau cyfreithiol yn dilyn eu anghydfod â chwmni Docklands Light Railway yn Llundain.

Fe fydd gyrwyr Trenau Arriva Cymru sy’n aelodau o’r undeb yn cynnal pleidlais arall i benderfynu a fydden nhw’n streicio yn y dyfodol.

“Mae ein brwydr ni dros gyfiawnder ar ran gyrwyr Trenau Arriva Cymru yn mynd yn ei blaen,” meddai’r Ysgrifennydd Cyffredinol, Bob Crow.

“Mae gyrwyr Trenau Arriva Cymru yn cael eu talu’n wael iawn o’i gymharu â gweddill y wlad a’r oll y maen nhw’n brwydro amdano yw cyflog cyffelyb.”

Dywedodd llefarydd ar ran Trenau Arriva Cymru eu bod nhw’n croesawu’r penderfyniad i ganslo’r streic.

“Fe fydd Trenau Arriva Cymru yn gallu darparu gwasanaeth llawn a cynhwysfawr ar gyfer y gêm rygbi rhyngwladol,” meddai.