Mae cleifion canser a’u hanwyliaid 25 gwaith yn fwy tebygol o ofyn am help “ar faterion ariannol nag am farwolaeth neu farw,” yn ôl ffigyrau newydd sydd wedi’u cyhoeddi gan linell gymorth Cymorth  Canser Macmillan heddiw.

Roedd y mwyafrif (39.8%) o’r rhai a oedd wedi ffonio’r  llinell gymorth yn 2011 wedi cysylltu er mwyn “chwilio am gymorth a gwybodaeth ariannol gan gynnwys hawliau budd-dal”.

Dim ond 1.6% a oedd yn chwilio am wybodaeth a chymorth ynghylch marwolaeth a marw, meddai’r elusen.

Yn ol  Cymorth Canser Macmillan, mae galwadau i Linell Gymorth Macmillan am wybodaeth, help a chyngor ariannol wedi “cynyddu’n aruthrol o 30% mewn cwta flwyddyn.”

Mae’r elusen yn disgwyl i anawsterau ariannol “waethygu eto i gleifion canser” ac yn datgan fod hyn yn “achos pryder.”

“Mae’r Llywodraeth yn bwrw ymlaen gyda chynlluniau i dorri cymorth hanfodol o hyd at £94 yr wythnos ar gyfer tua 7,000 o gleifion canser o dan y Mesur Diwygio Lles dadleuol,” meddai Cymorth Canser Macmillan mewn datganiad.

‘Syfrdanol’

“Yn ystod gornest fwyaf eu bywydau mae’n syfrdanol bod angen i fwy a mwy o gleifion canser dreulio’u hamser yn ceisio help ar faterion ariannol yn hytrach na chanolbwyntio ar eu hiechyd a’u lles,” meddai  Susan Morris, Rheolwr Cyffredinol Macmillan yng Nghymru.

“Er ein bod yn cydnabod bod angen diwygio’r system fudd-daliadau, os caiff y Bil Diwygio Lles ei basio heb welliannau bydd yn cael effaith ddinistriol ar gleifion canser, sydd eisoes yn ei chael hi’n anodd,” meddai.

Fe fyddai cynigion y mesur  yn golygu torri Lwfans Cyflogaeth a Chymorth ar gyfer cleifion canser a phobl anabl eraill ar ôl blwyddyn. Ond, mae Cymorth Canser Macmillan eisiau gweld diwygio hyn i ddwy flynedd “er mwyn rhoi mwy o amser i gleifion canser wella wedi triniaeth.”

Mae ffigyrau’r ymchwil yn  seiliedig ar alwadau i Linell Gymorth Macmillan rhwng Ionawr – Tachwedd 2011.