Leighton Andrews
Mae Ysgrifennydd Addsyg Cymru wedi mynnu na fydd yn cael gwared â’r system bandio ysgolion er gwaetha’r gwrthwynebiad, gan ddweud ei bod yn angenrheidiol er mwyn adnabod a thargedu’r ysgolion hynny sydd angen cymorth ychwanegol.
Mewn dadl yn y Senedd neithiwr, roedd Leighton Andrews wedi gwrthod cyhuddiad Plaid Cymru bod y system bandio yn debyg i dablau cynghrair ysgolion Lloegr ac yn fodd o godi cywilydd ar ysgolion sydd ddim yn perfformio cystal.
Mae Plaid Cymru wedi galw am ddiddymu’r rhaglen bandio i ysgolion cynradd Cymru. Mae’r system eisoes wedi ei gyflwyno ar gyfer ysgolion uwchradd Cymru ers diwedd 2011, ond mae’r Llywodraeth nawr yn y broses o gyflwyno’r system i ysgolion cynradd.
Mae’r cynllun yn rhoi ysgolion mewn un o bump band cyrhaeddiad yn ôl nifer o ffactorau, gan gynnwys canlyniadau TGAU a phresenoldeb disgyblion, ond mae Plaid Cymru yn dweud bod angen meddwl am system “fwy teg” ar gyfer gwella addysg Cymru.
Mae’r blaid yn dweud y byddai cynllun sy’n rhoi darlun mwy cyflawn o berfformiad ysgol yn well opsiwn na bandio sy’n creu “cystadleuaeth” rhwng ysgolion yn hytrach na chefnogaeth.
‘Cylch o ddirywiad’
Wrth siarad gyda Golwg 360 ddoe, dywedodd llefarydd addysg Plaid Cymru, Simon Thomas, ei fod yn galw ar y Llywodraeth i roi’r gorau i’r system ar unwaith, cyn tynnu ysgolion cynradd Cymru i’r un “cylch o ddirywiad” â’r rhai uwchradd.
“Mae angen gweithio ar system fwy cynhwysfawr sydd yn cynnwys bob ysgol, a chael system mwy cynadliadwy,” meddai Simon Thomas.
‘Eithrio ysgolion cefn gwlad o’r bandio’
Yn ôl Simon Thomas y broblem gyda chyflwyno system bandio i ysgolion cynradd yw na fydd rhwng “30-40% o ysgolion” yn cael eu cynnwys yn y system, oherwydd mai dim ond ysgolion gyda dros 30 o blant fydd yn cael eu hystyried.
“Fy nealltwriaeth i ar hyn o bryd yw y byddan nhw’n gorfod cydnabod bod gymaint o ysgolion bach, ysgolion cefn gwlad yw llawer ohonyn nhw, sydd â llai na thrideg o blant, gydag un neu ddau ddosbarth,” meddai Simon Thomas.
“Os ydych chi’n mynd i eithrio 30-40% o ysgolion y wlad o’r system, yna dyw hi ddim yn mynd i fod yn system bandio cenedlaethol,” meddai. “Yn ystadegol mae e’n nonsens.”
Ymateb undeb
Mae undeb athrawon NUT Cymru hefyd wedi galw ar Lywodraeth Cymru i roi’r gorau i’r system bandio ysgolion.
Dywedodd ysgrifennydd yr undeb David Evans mai’r cwbl mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud yw “ail-gyflwyno tablau cynghrair i Gymru. Does dim amheuaeth ymhlith athrawon y bydd y system bandio yn methu plant yng Nghymru.”
Mae nhw’n galw ar Lywodraeth Cymru i ail-ystyried eu cynlluniau.
Mae Ysgrifennydd Addysg Cymru Leighton Andrews wedi sôn am sefydlu uned perfformiad ysgolion er mwyn helpu ysgolion yn y bandiau gwaelod, ond does dim mwy o fanylion wedi ei gyhoeddi ar hyn o bryd.
Mae Simon Thomas yn poeni os na fydd camau yn cael eu cymryd ar fyrder, bydd yr ysgolion yn y bandiau gwaelod yn dioddef ymhellach oherwydd y ddaelltwriaeth gyffredin fod ysgol ym mand 5 yn ysgol wael.
“Mae’n creu cylch o ddirywiad pellach,” meddai.