Mae bandio ysgolion yn rhy debyg i system niweidiol tablau Lloegr, yn ôl Plaid Cymru, ac mae angen system fwy teg i fesur llwyddiant ysgolion.

Mae Plaid Cymru wedi galw am ddiddymu’r rhaglen bandio i ysgolion cynradd Cymru heddiw, wrth lansio’r drafodaeth gyntaf ar y mater ers cyhoeddi bandiau ysgolion uwchradd Cymru ddiwedd 2011 ar lawr y Siambr.

Mae’r blaid yn dweud y byddai cynllun sy’n rhoi darlun mwy cyflawn o berfformiad ysgol yn well opsiwn na bandio sy’n creu “cystadleuaeth” rhwng ysgolion yn hytrach na chefnogaeth.

Wrth ymsod ar gynllun newydd Llywodraeth Cymru heddiw, sy’n rhoi ysgolion mewn un o bump band cyrhaeddiad yn ôl nifer o ffactorau, gan gynnwys canlyniadau TGAU a phresenoldeb disgyblion, dywedodd Plaid Cymru fod angen meddwl am system “fwy teg” ar gyfer gwella addysg Cymru.

Mae’r system eisoes wedi ei gyflwyno ar gyfer ysgolion uwchradd Cymru ers diwedd 2011, ond mae’r Llywodraeth nawr yn y broses o gyflwyno’r system i ysgolion cynradd.

Wrth siarad gyda Golwg 360 heddiw, dywedodd llefarydd addysg Plaid Cymru, Simon Thomas, ei fod yn galw ar y Llywodraeth i roi’r gorau i’r system ar unwaith, cyn tynnu ysgolion cynradd Cymru i’r un “cylch o ddirywiad” â’r rhai uwchradd.

“Mae angen gweithio ar system fwy cynhwysfawr sydd yn cynnwys bob ysgol, a chael system mwy cynadliadwy,” meddai Simon Thomas, sy’n dweud bod tair prif broblem gyda’r system bandio sydd wedi arwain Plaid Cymru i godi’r mater ar lawr y siambr heddiw.

“Mae’n gwbl deg i athrawon gwyno eu bod nhw’n cael eu barnu ar sail canlyniadau un flwyddyn yn unig dan y system bandio cyfyng presennol,” meddai.

‘Eithrio ysgolion cefn gwlad o’r bandio’

Y broblem gyntaf i Simon Thomas gyda chyflwyno system bandio i ysgolion cynradd yw na fydd rhwng “30-40% o ysgolion” yn cael eu cynnwys yn y system, oherwydd mai dim ond ysgolion gyda dros 30 o blant fydd yn cael eu hystyried.

“Fy nealltwriaeth i ar hyn o bryd yw y byddan nhw’n gorfod cydnabod bod gymaint o ysgolion bach, ysgolion cefn gwlad yw llawer ohonyn nhw, sydd â llai na thrideg o blant, gydag un neu ddau ddosbarth,” meddai Simon Thomas.

“Os ydych chi’n mynd i eithrio 30-40% o ysgolion y wlad o’r system, yna dyw hi ddim yn mynd i fod yn system bandio cenedlaethol,” meddai. “Yn ystadegol mae e’n nonsens.”

‘Creu cystadleuaeth nid cefnogaeth’

Yr ail broblem gyda’r system, yn ôl Simon Thomas, yw’r ffaith ei fod yn rhy debyg i dablau cynghrair ysgolion – fel sy’n dal i fodoli yn Lloegr.

“Mae’r ffordd mae’r bandiau yma’n gweithio yn awgrymu’n gryf fod rhain mwy a mwy fel ‘league tables’. Felly man a man bod yn onest ynglŷn â hynny.

“Cwestiwn sylfaenol i fi drwy gydol hyn yw, gwedwch ein bod ni’n derbyn dadl y Llywodraeth mai dull o ‘wella perfformiad’ ysgolion yw bandio, wel os yw perfformiad ysgolion yn gwella wedyn, fydd y bandiau gwaelod yn gwagio?

“Os, wrth gwrs, mai’r cwbwl fydde’n digwydd drwy welliant yw bod ysgolion yn newid ac yn cyfnewid eu safleoedd gyda’i gilydd, wel league table yw hwnna,” meddai. “Mae’n mesur ysgolion yn erbyn ei gilydd. A dyna mae’n ymddangos i fi yw’r system bandio.”

Mae’r Llywodraeth wedi dadlau’n gyson mai nid tablau cynghrair yw’r bandio ysgolion, gan fod mwy na dim ond canlyniadau arholiadau sy’n cael eu mesur, ond ffactorau fel presenoldeb a chinio am ddim.

Ond mae Simon Thomas yn dweud mai “llen o fŵg” yw hyn i gyd, ac mai mesuryddion perfformiad yw mwyafrif yr 16 ffactor sy’n cael eu hystyried wrth fandio ysgolion.

‘Dim cynllun gwelliannau’

Mae Simon Thomas hefyd yn cwestiynu faint o help all y Llywodraeth ei gynnig i ysgolion sy’n cael eu gosod yn y bandiau isaf, gan ddweud nad oes cynllun nag arweiniad amlwg ar hyn mor belled.

“Beth yn union yw’r camau y’ch chi’n mynd i’w defnyddio i wella perfformiad yr ysgolion yma nawr? Ry’n ni’n gwybod nad oes yna arian ychwanegol, ond dy’n ni ddim hyd yn oed yn siwr pwy sydd i fod i arwain ar y camau yma, na pha ffordd maen nhw’n mynd i gael eu gwneud, na’u natur nhw, a dweud y gwir,” meddai.

Mae Ysgrifennydd Addysg Cymru Leighton Andrews wedi sôn am sefydlu uned perfformiad ysgolion er mwyn helpu ysgolion yn y bandiau gwaelod, ond does dim mwy o fanylion wedi ei gyhoeddi ar hyn o bryd.

Mae Simon Thomas yn poeni os na fydd camau yn cael eu cymryd ar fyrder, bydd yr ysgolion yn y bandiau gwaelod yn dioddef ymhellach oherwydd y ddaelltwriaeth gyffredin fod ysgol ym mand 5 yn ysgol wael.

“Mae’n creu cylch o ddirywiad pellach,” meddai.