Rhodri Glyn Thomas
Mae Aelod Cynulliad wedi gofyn am atebion gan  Lywodraeth Cymru, wedi iddyn nhw ddechrau ymchwiliad i weithgareddau sefydliad sy’n gyfrifol am brosiectau gwerth dros £8 miliwn yng Nghymru.

Mewn llythyr at Brif Weinidog Cymru ddoe, gofynodd Rhodri Glyn Thomas AC a oedd e’n hapus i adael i’r Gymdeithas Lleiafrifoedd Ethnig Cymru Gyfan (AWEMA) i barhau i reoli’r prosiectau Ewropeaidd gwerth £8.4 miliwn, yn sgil cyhuddiadau bod y prif weithredwr wedi camddefnyddio arian cyhoeddus.

Mae cwynion wedi cael eu gwneud i’r Comisiwn Elusenau ac i Heddlu De Cymru ynglŷn ag ymddygiad honedig y prif weithredwr Naz Malik, sydd wedi bod yn ei swydd ers 2001.

Daeth ymchwiliad annibynnol i’r casgliad yn ddiweddar fod Naz Malik wedi bod yn camddefnyddio arian cyhoeddus ac yn rhedeg sefydliad  nepotaidd.

Mae Naz Malik eisoes wedi cyfaddef iddo ddefnyddio arian y Gymdeithas i dalu dyled ar ei gerdyn credyd gwerth £9,000, ond mae’n dweud ei fod yn ystyried yr arian yn daliad rhagblaen am gostau yn y dyfodol.

Mae e hefyd wedi cyfaddef y dylai fod wedi datgan diddordeb pan gafodd cynnydd mewn cyflog i’w ferch Tegwen, sy’n gyfarwyddwraig gweithgareddau i’r Gymdeithas, ei drafod gan y bwrdd rheoli.

Mae’r Gymdeithas bellach wedi rhoi rhybudd ysgrifenedig i Naz Malik yn dilyn gwrandawiad disgyblu, ac ar ôl i gadeirydd y Gymdeithas ei gael yn euog o weithredoedd a allai gael eu gweld fel camymddwyn difrifol.

Ond yn ôl Rhodri Glyn Thomas, mae angen ystyried camau pellach i sicrhau bod sefydliad sy’n gyfrifol am gyllideb mor fawr yn gweithredu’n briodol.

Mae Rhodri Glyn Thomas bellach wedi gofyn i’r Prif Weinidog Carwyn Jones pa gamau fydd yn cael eu cymryd tra bod yr ymchwiliad gan y Llywodraeth yn cael ei gynnal.

“Ysgrifennaf i geisio eglurder ynglyn â’r angen i atal dros dro y prosiectau, o ystyried eich cydnabyddiaeth o’r angen am ymchwiliad, ac a yw Naz Malik i aros yn ei swydd neu a yw i gael ei atal dros dro o’i waith.”

Gofynodd hefyd i’r Prif Weinidog ddweud pryd y byddai’n gwneud datganiad i’r Cynulliad “ynglyn â’ch hyder yng ngallu’r Gymdeithas i reoli’r prosiectau yma.”

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru wrth Golwg 360 heddiw nad oedd hi’n briodol iddyn nhw wneud sylwadau ar y mater am y tro.