Mae cyfres o stampiau wedi’u cyhoeddi gan y Post Brenhinol i ddathlu’r clasuron a ysgrifennwyd gan yr awdur o Gaerdydd, Roald Dahl.

Mae darluniau o Charlie and the Chocolate Factory yn ymddangos ar y stampiau yn ogystal â’r Fantastic Mr Fox.

Ymhlith darluniau eraill o lyfrau’r awdur llyfrau plant adnabyddus mae James and the Giant Peach, Matilda, The Twits, The Witches a BFG.

Yn ôl Ophelia Dahl, fe fuasai ei thad,  a fu farw yn 1990, “wrth ei fodd” gyda’r deyrnged darluniau ei gymeriadau gan Quentin Blake.

Mae 30ain pen-blwydd The BFG, un o gymeriadau mwyaf poblogaidd Roald Dahl yn cael ei nodi gan bedwar stamp sy’n darlunio penodau o’r llyfr.

“Fe wnaeth dad ysgrifennu miloedd o lythyrau adref drwy ei fywyd. Wnaeth o ddim breuddwydio y byddai ei gymeriadau ar stampiau un diwrnod,” meddai ei ferch.

“Byddai wrth ei fodd. Dyma ffordd wych o ddechrau dathlu 30ain Pen-blwydd argraffu The BFG eleni…” meddai.

Fe gafodd Roald Dahl ei eni a’i fagu yn Llandaf, Caerdydd cyn symud i  Swydd Buckingham.