Mae undeb athrawon fwyaf Cymru wedi galw ar y Llywodraeth i ailfeddwl am ei bolisi addysg a hynny cyn dadl Plaid Cymru ar fandio ysgolion.

Mae Undeb NUT Cymru wedi croesawu’r ddadl sy’n nodi ‘nad yw bandio yn darparu darlun cyflawn o berfformiad ysgolion.’

Fe fydd y cyfarfod yn cael ei gynnal yn y Cynulliad heddiw.

Fe ddywedodd David Evans, Ysgrifennydd NUT Cymru heddiw ei fod yn croesawu’r ddadl sydd wedi’i galw gan Blaid Cymru am ei fod yn “adlewyrchu’r ffaith bod athrawon ar draws Cymru yn “siomedig a blin” dros ymdriniaeth Llywodraeth Cymru o’r sefyllfa.

“Mae’r Gweinidog Addysg yn ailadrodd y pwynt nad yw bandio am ‘enwi a chywilyddio’ ysgolion, ond, dydyn ni heb weld dim eglurhad sy’n cyfiawnhau’r sylw,” meddai David Evans ar ran yr NUT heddiw.

Mae’n dweud fod  Llywodraeth Cymru wedi “cymeradwyo system sy’n annheg ac anghyfiawn” ac yn galw am gael gwared a’r system.