Cyhoeddi cynlluniau i ostwng etholaethau Seneddol Cymru

Diweddarwyd am  


Jonathan Edwards
Fe fydd newidiadau mawr i sedd sawl Aelod Seneddol  dan gynlluniau i dorri etholaethau Seneddol Cymru o 40 i 30.

Mae’r cynigion yn cael eu cyhoeddi gan Gomisiwn Ffiniau Cymru heddiw, gyda’r nod o gael etholaethau sydd i gyd rhwng 72,810 ac 80,473 o etholwyr.

Fe fydd pob sedd yng Nghymru’n cael ei heffeithio i ryw raddau ac mae gwleidyddion a mudiadau eisoes wedi beirniadu rhai o’r cynigion.

Brwydrau

Un o’r rhai sydd wedi eu heffeithio gan yr argymhellion yw Gweinidog Swyddfa Cymru David Jones, sy’n mwynhau mwyafrif sefydlog ar hyn o bryd yng Ngorllewin Clwyd.

Petai’r argymhellion yn cael eu derbyn, gallai’r AS fod yn wynebu uniad ag etholaeth Guto Bebb AS, drws nesa’ yn Aberconwy i greu etholaeth newydd Arfordir Gogledd Cymru.

Gallai hyn olygu bod yn rhaid i David Jones frwydro yn erbyn Guto Bebb am yr enwebiad.

Newidiadau trwy wledydd Prydain

Mae’r cynigion heddiw yn rhan o becyn o newidiadau ar draws y DU i ostwng nifer yr Aelodau Seneddol i  600, gan dorri 50 oddi ar y cyfanswm o 650 sydd yno nawr, er mwyn ceisio osgoi anghysondebau.

Mae’r cynigion hefyd yn awgrymu y gallai rhan o Orllewin Clwyd fynd i greu etholaeth Glyndwr a Gogledd Powys, ond gallai AS Sir Drefaldwyn Glyn Davies hefyd fod â’i lygad ar yr etholaeth honno.

Byddai’r newidiadau’n gweld etholaeth Ynys Môn yn troi’n etholaeth Ynys Môn a Menai ac etholaeth Ceredigion yn troi unwaith eto’n Geredigion a Gogledd Penfro, tra bod etholaeth newydd Caerfyrddin yn cael ei chreu i gynnwys rhannau o ddwy etholaeth bresennol.

Plaid yn beirniadu

Wrth ymateb i’r cynlluniau dywedodd Jonathan Edwards, Aelod Seneddol Plaid Cymru bod y blaid wedi gwrthwynebu gostyngiad o 25% yn nifer yr ASau o Gymru yn San Steffan.

“Er bod rhai o’r etholaethau newydd arfaethedig yn gwneud synnwyr, mae na nifer o gynigion  lle mae cysylltiadau daearyddol a chymunedol wedi cael eu hanwybyddu er mwyn cyrraedd rhyw ffigwr penodol.

“Mae rhai o’r etholaethau newydd yn anymarferol ac mae maint rhai ohonyn nhw yn peri pryder. Rydyn ni felly yn credu bod angen ystyriaeth bellach i rai o’r cynlluniau. Fe fydd Plaid Cymru yn chwarae rhan adeiladol yn y broses yma yn ystod yr wythnosau nesaf.”

Yr etholaethau newydd

Y 30 etholaeth newydd, yn ôl y cynigion, fyddai:

1. Menai ac Ynys Môn

2. Gwynedd

3. Ceredigion a Gogledd Penfro

4. De a Gorllewin Penfro

5. Caerfyrddin

6. Llanelli

7. Gwyr a Gorllewin Abertawe

8. Dwyrain Abertawe

9. Castell Nedd

10. Aberafon ac Ogwr

11. Pen-y-bont ar Ogwr

12. Bro Morgannwg

13. Gorllewin Caerdydd

14. Canol Caerdydd a Phenarth

15. Dwyrain Caerdydd

16. Caerffili a Gogledd Caerdydd

17. Gorllewin Casnewydd y Sirhowy

18. Canol Casnewydd

19. Sir Fynwy

20. Torfaen

21. Blaenau Gwent

22. Blaenau’r Cymoedd

23. Rhondda

24. Pontypridd

25. De Powys

26. Glyndwr a Gogledd Powys

27. Wrecsam Maelor

28. Alun a Glannau Dyfrdwy

29. Aber Dyfrdwy

30. Arfordir Gogledd Cymru

Erthyglau perthnasol

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.

Rheolau Cyfrannu | Nodi Camddefnydd

Rheolau Cyfrannu

Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.

Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.

Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360 yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.

Iawn

Nodi Camddefnydd

Os ydych chi’n credu bod y neges yma’n torri rheolau’r wefan, cliciwch ar y faner nodi camddefnydd sy’n ymddangos wrth sgrolio dros unrhyw sylwad. Os bydd tri pherson yn anhapus, bydd y neges yn dod yn ôl at Golwg360 i’w ddilysu.

Iawn

Cofio Eirwyn Pontsiân – darlith Lyn Ebenezer