Mae Heddlu’r Gogledd  wedi cyhoeddi enwau’r ddau ddyn ifanc fu farw mewn damwain car ar yr A542 rhwng Llangollen a Bwlch yr Oernant ddoe.

Roedd  Jonathon Lee Cassidy Jones a Dale Thomas Williams yn 18 oed  ac yn dod o ardal Riwabon ger Wrecsam.

Cafodd yr heddlu eu galw i’r digwyddiad ym Mwlch yr Oernant am 12.36pm brynhawn dydd Llun, 9 Ionawr.

Roedd tri pherson yn teithio yn y car Peugeot lliw arian a glas ar y pryd. Credir bod y car wedi gwyro oddiar y ffordd ac wedi  taro yn erbyn coeden.

Bu farw Jonathon Lee Cassidy Jones a Dale Thomas Williams yn y fan a’r lle a chafodd trydydd person anafiadau i’w frest. Mae’n parhau i gael triniaeth yn Ysbyty Wrecsam Maelor ond mae’n debyg nad yw ei anafiadau yn bygwth bywyd.

Roedd y car yn teithio o Fwlch yr Oernant tuag at Langollen pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad.

Mae’r heddlu’n parhau i ymchwilio i’r ddamwain ac yn apelio am dystion.

Fe ddylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu gyda’r Heddlu ar 101 neu 0300 3300 101.