Mae un o flogwyr Cymraeg amlycaf Cymru wedi cael ei feirnaidu am sylwadau ‘homoffobig’ a ‘chul’ mewn blog a ysgrifennodd ar ei wefan y bore ’ma.

Mewn erthygl o’r enw ‘Gwleidyddiaeth Rhyw’, dywedodd y blogiwr Alwyn ap Huw – neu ‘Hen Rech Flin’ – mai pobol sy’n gwrthod cyfrifoldebau magu teulu yw pobol hoyw.

“Dymuno hwyl rywiol heb gyfrifoldeb yw cuddio tu nol i’r bathodyn hoyw!” meddai yn ei flog.

Ond mae’r erthygl wedi ysgogi ymateb chwyrn gan ddarllenwyr, gyda rhai yn dweud fod ei eiriau “wedi tynnu deigryn. Sut all unrhywun feddwl athroniaeth mor gul a chas??”

Yn yr erthygl, mae Alwyn ap Huw yn dweud mai dewis yr unigolyn yw’r brif wahaniaeth rhwng bod yn heterorywiol neu’n hoyw.

“Sori am fod yn Homoffôb ond mae’n ymddangos i mi mae’r gwahaniaeth rhwng bod yn rhywiol a gwrywgydiol yw’r ofn o dderbyn y cyfrifoldeb o fagu’r genhedlaeth nesaf o Gymry, yr ofn o dderbyn y cyfrifoldeb am ganlyniadau naturiol y profiad rhywiol!” meddai yn ei flog.

Ond wrth siarad â Golwg 360 heddiw, dywedodd Alwyn ap Huw ei fod yn gwrthod y label “homoffôb”.

“Ma’ ffobia yn afiechyd,” meddai, “ac mae’n hen arfer cas i labelu unrhyw berson sy’n anghytuno â’ch barn chi yn rhywun sydd ag afiechyd meddwl.”

Dywedodd hefyd ei fod yn “sefyll wrth bob gair” yn ei flog, er gwaetha’r ymateb tanbaid, a chynyddol, i’w sylwadau.

“Ma’r hen farn cymdeithasol cosy yma wedi cael gafael ar bobol,” meddai, “mae’n troi’n stumog i weld pobol yn cadw at y drefn.”

‘Yr heresi newydd’

Yn ôl Alwyn ap Huw, mae gwneud sylwadau yn erbyn pobol hoyw fel yr “heresi” newydd.

“Mae o bron fel fersiwn newydd o Gatholigiaeth,” meddai, “bron fel offeiriad yn dweud mai heresi ydi barn amgen.”

Ond mae ei sylwadau wedi corddi’r dyfroedd, yn enwedig wrth ddatgan mai dewis yw bod yn hoyw.

“Ma’ nhw wedi gwneud dewis rhywiol,” meddai wrth Golwg 360.

“Ma’r ddadl yma mai natur ydi o, bod pobol yn cael eu geni yn hoyw neu’n hetrorywiol yn lol botes – fy newis personol i ydi o,” meddai.

Ymateb chwyrn

Mae’r sylwadau wedi denu ymateb chwyrn ar y we ac ar wefannau cymdeithasol, gyda rhai yn cwestiynu pam ei fod “am greu y bathodyn ‘homoffob’ yma i’w wisgo mor falch??”

Mae un  person di-enw hefyd wedi cyhuddo Alwyn ap Huw o bregethu o bulpud ‘breintiedig’ yr hetrorywiol ar y mater.

‘Perthyn i oes y deinosoriaid’

Yn ôl llefarydd ar ran Stonewall Cymru, Andrew White, mae’r sylwadau ar flog Alwyn ap Huw yn dangos “anwybodaeth sy’n perthyn i oes y deinosoriaid”.

“Fe sy’n cysylltu rhyw â magu plentyn. Ie, canlyniad rhyw yw plentyn, ond mae’r magwraeth yn ganlyniad i lawer o bethau eraill,” meddai Andrew White wrth Golwg 360.

“Mae e wedi penderfynu darlledu i’r byd ei arferion rhywiol e, tra’n beirniadu arferion rhywiol pobol eraill.”