Mae’r Heddlu’n dal i ymchwilio i achos damwain car lle bu farw dau ddyn a chafodd un arall anafiadau i’w frest ar yr A542 ger Llangollen.

Cafodd yr heddlu eu galw i’r digwyddiad ym Mwlch yr Oernant am 12.36pm brynhawn ddoe.

Roedd tri pherson yn teithio yn y car Peugeot lliw arian a glas ar y pryd. Credir bod y car wedi gwyro oddiar y ffordd ac wedi  taro yn erbyn coeden.

Roedd y  ddau ddyn wedi marw yn y fan a’r lle a chafodd trydydd person anafiadau i’w frest. Mae’n parhau i gael triniaeth yn Ysbyty Wrecsam Maelor ond mae’n debyg nad yw ei anafiadau yn bygwth bywyd.

Roedd y ddau a fu farw yn dod o ardal Rhiwabon.

Roedd y car yn teithio o Fwlch yr Oernant tuag at Langollen pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad. Bu’r ffordd ar gau am rai oriau wedi’r ddamwain ond bellach wedi ail-agor.

Fe ddylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu gyda’r Heddlu ar 101 neu 0300 3300 101.