Mae Heddlu’r Gogledd wedi cadarnhau bod dau ddyn wedi marw ac un arall wedi’i anafu mewn gwrthdrawiad ar yr A542 ger Llangollen.

Cafodd yr heddlu eu galw i’r digwyddiad ym Mwlch yr Oernant am 12.36pm heddiw.

Roedd tri pherson yn teithio yn y cerbyd ar y pryd. Credir bod y car wedi gwyro oddiar y ffordd ac wedi mynd drwy ffens cyn taro yn erbyn coeden.

Roedd y  ddau ddyn wedi marw yn y fan a’r lle a chafodd trydydd person ei gludo i Ysbyty Wrecsam Maelor. Mae’n debyg bod y ddau ddyn ifanc fu farw yn byw yn lleol.

Roedd y car Peugeot 206 lliw arian yn teithio o Fwlch yr Oernant i Langollen ar y pryd.

Mae’r heddlu wedi cau’r ffordd ac mae disgwyl iddi fod ar gau am gyfnod eto.

Fe ddylai unrhyw un â gwybodaeth am y digwyddiad gysylltu â’r swyddog heddlu  Aled Jackson ar 101.