Mae Heddlu Trafnidiaeth Prydain wedi rhyddhau delweddau teledu cylch cyfyng ac yn apelio am wybodaeth ar ôl i ddyn gyflawni gweithred anweddus o flaen dynes oedd yn teithio ar drên rhwng Caerdydd a Chasnewydd.
Mae Heddlu Trafnidiaeth Prydain eisiau gwybodaeth am ddyn all fod yn gysylltiedig â’r digwyddiad.
Roedd y ddynes wedi dod ar drên 6.23pm o Gaerdydd i Cheltenham Spa yng Nghaerdydd. Ar ôl iddi gymryd ei sedd, daeth dyn ac eistedd gyferbyn a hi gan ddangos ei hun o’i blaen. Fe gyflawnodd weithred anweddus wrth edrych ar y ddynes yn uniongyrchol.
Fe barodd y digwyddiad tua 10 munud – hyd nes i’r dyn adael y trên yng Nghasnewydd, meddai’r Heddlu.
Roedd y ddynes 48 blwydd oed wedi’i hysgwyd o ganlyniad i’r digwyddiad. Roedd yn ymweld â’r ardal am y tro cyntaf. Yn ôl yr Heddlu, mae’r math hwn o ddigwyddiad yn anghyffredin.
Mae’r heddlu wedi rhyddhau delweddau teledu cylch cyfyng ac yn awyddus i siarad gyda dyn mewn cysylltiad â’r digwyddiad ar Ddydd Sul, 27 Dachwedd, 2011.
Mae’n debyg bod y dyn yn ei chwechdegau, ac roedd yn gwisgo cot fawr frown a chrys siec.
Fe ddylai unrhyw un â gwybodaeth am y digwyddiad gysylltu gyda Heddlu Trafnidiaeth Prydain ar 0800 40 50 40 neu Taclo’r Tacle ar 0800 555 111.