Alun Davies
Mae bwriad Llywodraeth Cymru i werthu fferm ymchwil pwysig yng Ngheredigion yn mynd i fod yn ergyd enfawr i’r diwydiant amaethyddol yng Nghymru, yn ôl un undeb amaethyddol.

Mae Undeb Amaethwyr Cymru, yr FUW, wedi rhybuddio y bydd penderfyniad Llywodraeth Cymru i werthu fferm ymchwil Pwllpeiran yng Ngheredigion mewn rhannau yn yr Hydref yn ergyd mawr i waith ymchwil pwysig yn y diwydiant.

Heddiw, dywedodd Llywydd yr FUW, Emyr Jones, fod y newyddion yn ergyd i amaethu nid yn unig yng Nghymru, ond i’r diwydiant ar draws y byd.

“Am ganran healaeth o’r ganrif ddiwethaf, mae Pwllpeiran wedi chwarae rhan bwysig wrth ddatblygu amaeth yng Nghymru o safbwynt amaethythiaeth rhyngwladol,” meddai.

“Mae gwaith blaengar sylfaenydd yr Orsaf Bridio Planhigion Cymreig, George Stapleton, ac eraill, yn dal i gael ei gydnabod yn rhyngwladol am ei gysylltiad annatod â Phwllpeiran.”

Ysgrifennu at y Dirprwy Weinidog

Mae’r Undeb bellach wedi ysgrifennu at y Dirprwy Weinidog Amaeth, Alun Davies, yn esbonio mai prif amcan y gwaith yn y fferm yw i “wella hyfywedd ffermio tir uchel, ac felly’n sicrhau cynnyrchiant amaethyddol mewn ardaloedd llai ffafriol, tra hefyd yn atal y diboblogi gwledig.”

Yn ôl Emyr Jones, sy’n ffermio eidion a defaid ar dir uchel ger y Bala, mae ganddo ef a miloedd o deuluoedd amaethu eraill le i ddiolch i’r gwaith sydd wedi ei wneud ar y fferm.

Yn eu llythyr at y dirprwy weinidog, mae’r Undeb wedi gofyn iddo ystyried cyd-destun y cynnydd yn y boblogaeth ar draws y byd, a phrinder yr adnoddau naturiol sydd bellach ar gael, a phwysigrwydd y gwaith ymchwil i ddarganfod ffyrdd o ffermio sy’n gwneud llai o niwed i’r amgylchedd.

“Mae uchelgais Stapelton ac eraill yn bwysicach heddiw nag erioed, ac mae’n eironig iawn fod newyddion am werthu Pwllpeiran wedi digwydd ar yr un wythnos a welodd trafodaeth yng Nghynhadledd Ffermio Rhydychen oedd yn dweud bod angen cynyddu’r ymchwil mewn amaeth,” meddai Emyr Jones.

Yn ôl y llywydd, dyma “gam yn ôl” i amaeth yng Nghymru, ac mae wedi galw ar y dirprwy weinidog, Alun Davies, i ystyried “pob opsiwn posib” a fyddai’n cadw’r fferm yn agored ar gyfer gwaith ymchwil.

‘Cyfle i’r ffermwyr brynu’r tir yn ôl’

Ond mae’r Llywodraeth wedi dweud fod y gwerthiant yn gyfle i ffermwyr lleol adennill y tir a’i ffermio drostyn nhw eu hunain.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae penderfyniad ymgynghorwyr amgylcheddol ac amaethyddol ADAS i ddod â’u les i ben yn Pwllpeiran yn golygu bod yn rhaid ystyried gwerthu’r fferm nawr.

“Yn sgil penderfyniad ADAS, mae’r penderfyniad wedi ei wneud i werthu’r fferm. Bydd y gwerthiant yn cael ei wneud mewn rhannau, gan alluogi ffermwyr lleol i wneud y mwyaf o’r cyfle i brynu’r tir, ac fe fydd yn gyfle gwych i fusnesau ffermio lleol i ehangu,” meddai’r llefarydd ar ran y Llywodraeth.

“Rydyn ni’n gweithio’n agos gyda staff y fferm i sicrhau eu bod nhw’n derbyn gymaint o gefnogaeth, gwybodaeth a chyngor ag sy’n bosib i’w helpu i benderfynu ar eu dyfodol.”