Mae’r Eisteddfod Genedlaethol yn galw ar artistiaid a chrefftwyr i gyflwyno eu gwaith ar gyfer arddangosfa agored Eisteddfod Bro Morgannwg 2012.

Gyda llai na deufis i fynd cyn y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno gwaith, ar 1 Mawrth, mae’r Eisteddfod yn disgwyl y bydd dros 2,750 o eitemau wedi cael eu cyflwyno eleni os yw’r safon yn agos i’r arfer.

“Yr arddangosfa hon yw un o binaclau ein calendr diwyddiannol,” meddai Swyddog Celfyddydau Gweledol y Brifwyl, Robyn Tomos.

“Mae sioe flynyddol yr Eisteddfod Genedlaethol yn dathlu’r gorau o fewn y celfyddydau gweledol yng Nghymru ac mae’r gwaith sy’n cael ei arddangos ynddi’n cael ei ystyried fwyfwy o safon ryngwladol,” meddai.

“Mae hi’n adlewyrchu’r rhagoriaeth, dyfeisgarwch a’r ymroddiad sy’n bodoli o fewn ein cymuned artistig, a dyma wahoddiad i bob artist a chrefftwr cymwys i anfon eu gwaith i’w hystyried.”

Mae’r amodau ar gyfer cyflwyno gwaith i’r Eisteddfod yn rhai gweddol manwl, ond digon agored, gyda gofyn bod yr artist wedi ei eni yng Nghymru, neu ag iddyn nhw rieni Cymraeg, neu eu bod wedi byw a gweithio yng Nghymru ers tair blynedd – neu’n siarad neu ysgrifennu Cymraeg.

Y panel dethol

Fe fydd panel o dri yn dewis a dethol y darnau gwaith i’w cynnal yn arddangosfa gelf Eisteddfod Bro Morgannwg eleni.

Declan McGonagle o Iwerddon fydd un o’r beirniaid hynny, sef Cyfarwyddwr Coleg Celf a Dylunio Dulyn, sy’n dweud ei fod yn edrych ymlaen i gael gweld gwaith artistiaid “anadnabyddus” iddo ef a gweld sut y maen nhw’n mynegi eu syniadau, defnyddio amrywiol gyfryngau ac ymdrafod â’u synnwyr o amser a lle.”

Dywedodd hefyd ei fod yn falch o gefnogi arddangosfa yr Eisteddfod gan ei fod yn “rhoi siawns i’r artistiaid hynny sydd, efallai, ddim yn rhan o’r brif ffrwd, i arddangos ac i’w gweld gan gynulleidfa ehangach.”

Yn 2004 daeth Declan McGonagle i Gymru i helpu dethol y wobr ryngwladol Artes Mundi gyntaf un. Mae ganddo ddiddordeb mawr yn y dolennau rhwng y gwahanol ffyrdd o greu a’r rhesymau gwahanol y tu ôl i’r creu, ynghyd â’r berthynas sydd bellach rhwng traddodiad, celfyddyd newydd a chyfryngau newydd.

“Yng nghyd-destun Cymru, fe fydd yn ddiddorol gweld sut y mae artistiaid yn ymdrin â materion yn ymwneud â hunaniaeth ddiwylliannol, boed yn drefol neu wledig,” meddai, “a hefyd, sut y maen nhw’n dod i delerau gyda’r gwrthdaro rhwng bywyd traddodiadol a chyfoes a’r gwrthdaro rhwng creu gwrthrychau ac arfer ddigidol neu rith gyfryngol.”

Y ddau feirniad arall fydd yr artist a’r mentor Sean Edwards, o Gaerdydd, a’r artist a’r curadur Laura Thomas, sy’n aelod o Urdd Gwneuthurwyr Cymru.

Yn ogystal â dewis yr eitemau i’w rhoi yn yr Arddangosfa, fe fydd y panel hefyd yn helpu dewis pwy fydd yn derbyn y Fedal Aur am Gelfyddyd Gain, Y Fedal Aur am Grefft a Dylunio, ac Ysgoloriaeth yr Artist Ifanc.