Mae dynes 49 oed wedi ei harestio ar gyhuddiad o geisio llofruddio dyn yn yr oriau mân bore dydd Sul.

Cafodd y ddynes o Sir y Fflint ei harestio yn oriau mân fore dydd Sul ar ôl i ddyn 62 oed gael ei drywanu mewn fflat yn y Fflint.

Mae disgwyl i’r ddynes ymddangos o flaen Llys Ynadon Wrecsam heddiw, 9 Ionawr.

Cafodd y dyn 62 oed ei gludo i’r ysbyty ar ôl ymosodiad honedig mewn fflat yn Bolingbroke Heights, ger canol y dref, am 1.21am bore ddoe.

Mae llefarydd ar ran Heddlu’r Gogledd wedi dweud fod y dyn bellach mewn “cyflwr sefydlog” yn yr ysbyty.

Mae’r ditectif arolygydd Arwyn Jones yn gofyn i unrhyw un a oedd yn ardal Bolingbroke, Fflint, yn oriau mân y bore ddoe, ac sydd ag unrhyw wybodaeth a allai helpu gyda’r ymchwiliad, i gysylltu â Heddlu Gogledd Cymru.