Mae dyn yn yr ysbyty ar ôl i dri dyn arall ymosod arno yn ei gartref ei hun, meddai Heddlu Gwent.

Mae’r heddlu yn ymchwilio yn dilyn y digwyddiad am 0.50am yn ardal Allt-yr-Ynn, Casnewydd.

Does neb wedi arestio ar hyn o bryd.

Dywedodd yr heddlu bod yn dynion wedi ymosod ar y dioddefwr â sawl arf gan gynnwys batiau pêl fas.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio Heddlu Gwent ar 101.