Mae canwr o Sir Benfro yn gobeithio cymryd rhan yng nghystadleuaeth Eurovision eleni – gan gynrychioli’r Ffindir.

Mae Tom Morgan, sy’n 30 oed, wedi bod yn byw yn Helsinki ers wyth mlynedd a bellach ar y rhestr fer i gynrychioli’r wlad.

Dywedodd ei fod wedi cyrraedd y 40 olaf o 540 o ymgeiswyr â’i gan acwstig ‘Melt’ a’i fod yn bosib pleidleisio o’i blaid ar ei dudalen Facebook.

Fe fydd hefyd yn perfformio yn Ninbych-y-Pysgod a Chaerdydd cyn diwedd y mis cyn dychwelyd i’r Ffindir.

‘Amrwd’

Dywedodd Tom Morgan mai drwy hap a damwain y llwyddodd i gyrraedd y rhestr fer ar ôl cofrestru ei gân “yn gyflym iawn” cyn mynd ar wyliau.

“Mae’r gân yn eithaf amrwd o’i gymharu â rhai o’r cystadleuwyr arall sy’n perthyn i gwmnïau recordio mawr ac yn mwynhau mwy o gefnogaeth yn y wlad,” meddai.

“Mae’n anoddach i fi gael sylw gan gyfryngau’r wlad felly rydw i’n gobeithio y bydd pawb yng Nghymru yn pleidleisio drosta’i.”

Bydd beirniaid yn penderfynu pwy fydd yn y 12 olaf gan ystyried pleidleisiau’r cyhoedd. Mae disgwyl y cyhoeddiad terfynol ar 27 Ionawr.

Bydd cystadleuaeth Eurovision yn cael ei gynnal yn Baku, Azerbaijan, eleni.