Mae dynes 49 oed wedi ei harestio ar amheuaeth o geisio llofruddio ar ôl i ddyn 62 oed gael ei drywanu mewn fflat yn y Fflint.

Aethpwyd a’r dioddefwr i’r ysbyty ar ôl yr ymosodiad honedig yn Bolingbroke Heights ger canol y dref am 1.21am heddiw.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Gogledd Cymru fod y dyn mewn “cyflwr sefydlog”.

Ychwanegodd nad oes rhagor o wybodaeth ar hyn o bryd.